Dŵr Cymru: Codi'r gwaharddiad dros dro ar bibellau dyfrio yng Ngheredigion
Mae Dŵr Cymru wedi codi'r gwaharddiad dros dro ar ddefnyddio pibellau dyfrio yng Nghymru, oedd yn effeithio ar tua 33,000 o eiddo ar draws canol a de Ceredigion, yn ogystal ag ardaloedd yn Sir Benfro a gogledd Caerfyrddin.
Cafodd y cyfyngiadau eu cyflwyno mewn achos o argyfwng yn dilyn cyfnod hir o alw eithriadol o uchel am ddŵr yfed.
Roedd hynny wedi gosod pwysau digynsail ar y rhwydwaith cyflenwi dŵr lleol, yn ystod yr haf boethaf ar gofnod yn ôl Swyddfa'r Met.
Yn dilyn cyfnod o welliant yn y lefelau storio dŵr yn yr ardal a gafodd ei heffeithio, mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau nad oes angen cyfyngiadau mwyach.
Mae hyn yn golygu nad oes gan unman yng Nghymru unrhyw gyfyngiadau mewn grym ar draws ardal weithredu Dŵr Cymru.
Mae Dŵr Cymru wedi diolch i gwsmeriaid, busnesau ac ymwelwyr am y ffordd y gwnaethon nhw ymateb yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau.
'Anghyfleus'
Yn ystod y gwaharddiad dros dro ar bibellau dyfrio, llwyddodd pobl yr ardal i leihau eu defnydd o ddŵr nad oedd yn hanfodol.
Helpodd hynny i gronfeydd dŵr lleol i adfer mwy o ddŵr.
Yn ystod mis Mehefin a Gorffennaf eleni, cafodd oddeutu 1,000 o fegalitrau - neu un biliwn o litrau - o ddŵr yfed ei gyflenwi bob diwrnod gweithredu, oedd yn ymdrech ar y cyd i sicrhau fod gan gwsmeriaid ddigon o gyflenwad wrth i'r storfeydd lleol ail-lenwi.
Dywedodd Kit Wilson, Prif Swyddog Cwsmeriaid Dŵr Cymru: "Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth ein cefnogi yn ystod y gwaharddiad.
"Rydyn ni'n ymwybodol oedd y cyfyngiadau hyn yn anghyfleus, yn enwedig yn ystod gwyliau'r haf, ac rydym yn ddiolchgar am sut yr ymatebodd bawb.
Gyda chynnydd mewn cawodydd o law dros y dyddiau diwethaf, a thymereddau'n gostwng, mae'r galw am ddŵr hefyd wedi gostwng i lefelau haws i'w trin.
Ond mae Dŵr Cymru'n parhau i annog cwsmeriaid i ddefnyddio dŵr yn ystyriol er mwyn gwarchod cyflenwadau dros gyfnod yr hydref a'r gaeaf.
"Mae pob ymdrech gan sawl person yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol," ychwanegodd Mr Wilson.