Tad Finlay Tarling i gystadlu mewn ras seiclo er cof am ei fab

Finlay Tarding

Mae tad Finlay Tarling wedi cofrestru i gystadlu mewn ras seiclo yng Nghymru er cof am ei fab, a fu farw yn 19 oed fis diwethaf mewn ras ym Mhortiwgal.

Fe fydd rownd olaf Cyfres Llandŵ Revival, cynghrair beicio yn ne Cymru, yn cael ei chynnal ym Mro Morgannwg ar 13 Medi er cof am Finlay Tarling.

Roedd Finlay yn rasio dros ei dîm, NSN Development Team, yn y Volta a Portugal ar 14 Awst pan gafodd ei daro gan gerbyd nad oedd yn rhan o’r ras.

Dywedodd Clwb Seiclo Maindy Flyers, trefnwyr y gynghrair seiclo, y bydd rownd olaf y gyfres yn cael ei chynnal er cof am Fin, ac yn codi arian i gronfa 'For Fin', sydd yn agos at gyrraedd £100,000.

Mae tad Fin, Michael Tarling, wedi cofrestru i gystadlu yn y ras agored categori 3/4.

Bydd naw ras yn cael eu cynnal i gyd, o gystadlaethau i blant wyth oed i seiclwyr proffesiynol, ac fe fydd y cyfan yn cael eu cynnal ar gylchffordd rasio modur Llandŵ ym Mro Morgannwg.

Dywedodd y trefnwyr eu bod yn annog cefnogwyr i ddod â bwyd ar gyfer picnic a threulio'r diwrnod yn cefnogi'r gystadleuaeth gyda'u teuluoedd.

Cafodd munud o dawelwch ei gynnal er cof am Fin Tarling cyn dechrau cymal agoriadol dynion Taith Prydain ddydd Mercher.

Fe wnaeth Josh Tarling rasio yn y Vuelta a España ddyddiau’n unig wedi i’w frawd Finlay gael ei ladd, gan orffen yn drydydd yn y cymal cyntaf.

Ond fe dynnodd yn ôl o'r gystadleuaeth rai dyddiau'n ddiweddarach.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.