Y darlledwr Jon Snow a’r actor Syr Jonathan Pryce yn cefnogi galwad am gynllun dementia ‘uchelgeisiol’
Mae’r darlledwr Jon Snow a’r actor o Gymru, Syr Jonathan Pryce, ymhlith y rhai sydd wedi llofnodi llythyr yn galw am gynllun “beiddgar ac uchelgeisiol” i wella gwasanaethau dementia.
Mae’r actorion Meera Syal, Suranne Jones a Vicky McClure, sydd hefyd yn llysgenhadon Alzheimer’s Society, wedi llofnodi’r llythyr, a fydd yn cael ei gyflwyno i Downing Street ddydd Mercher.
Alzheimer’s Society sydd wedi trefnu’r ymgyrch. Maen nhw’n galw ar Lywodraeth y DU i “wneud yn well dros bawb sydd wedi’u heffeithio gan ddementia”.
Mae’r galw’n ymwneud â fframwaith newydd ar gyfer gwasanaethau dementia a llesgedd o fewn y GIG yn Lloegr.
Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wrthi’n datblygu strategaeth dementia newydd ar gyfer 2026–36.
Daeth yr ymgynghoriad ar y strategaeth ddrafft i ben ar 6 Ebrill, ond nid yw’r canlyniad wedi’i gyhoeddi eto.
Yn ôl Alzheimer’s Society, yr amcangyfrif yw nad yw un o bob dau o’r bobl sy’n byw gyda dementia yng Nghymru wedi cael diagnosis.
Cafodd Jon Snow ddiagnosis o glefyd Alzheimer yn 2023. Clefyd Alzheimer yw’r math mwyaf cyffredin o ddementia.
Fe ddatgelodd y cyn-ddarlledwr newyddion ei ddiagnosis ym mis Mehefin eleni. Mae o bellach yn cefnogi galwad Alzheimer’s Society am gynllun gwell i fynd i’r afael â’r cyflwr.
Aros 'misoedd' am ddiagnosis
Daw’r llythyr wrth i arolwg o ychydig dros 1,000 o ofalwyr pobl â dementia ledled y DU awgrymu bod nifer yn aros misoedd am ddiagnosis.
Dywedodd bron i hanner y gofalwyr eu bod wedi aros mwy na chwe mis am ddiagnosis ar ôl ceisio cymorth am y tro cyntaf.
O’r 868 o ofalwyr oedd yn cynorthwyo rhywun oedd wedi cael diagnosis, dywedodd 46% fod yr amser a gymerodd i gael diagnosis wedi effeithio ar eu gwaith.
Dywedodd 35% fod yr oedi wedi ei gwneud hi’n anoddach cynllunio ar gyfer y dyfodol, tra bod tri o bob 10 yn teimlo bod eu bywydau wedi’u gohirio.
Mae Alzheimer’s Society am weld safon genedlaethol newydd yn Lloegr a fyddai’n sicrhau bod rhywun â dementia yn cael diagnosis cywir o fewn 18 wythnos i gael ei atgyfeirio gan feddyg teulu.
Mae hefyd am i bobl gael cynllun gofal a mynediad at driniaeth lle bo hynny’n briodol.
Mae’r llythyr yn galw ar Lywodraeth y DU i osod nod i leihau nifer y bobl sy’n marw o ddementia, sicrhau bod cynlluniau ar waith ar gyfer triniaethau newydd a gwella hyfforddiant dementia ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol.
Dywedodd Michelle Dyson, prif weithredwr Alzheimer’s Society, na fyddai’n dderbyniol gadael rhywun i geisio gweithio allan beth i’w wneud ar ei ben ei hun ar ôl diagnosis o glefyd fel canser.
Ond, meddai, dyna yw’r “realiti i ormod o bobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia”.
“Mae diagnosis dementia yn gallu cynnig atebion, dealltwriaeth a mynediad at y cymorth, y driniaeth a’r gofal sy’n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl,” meddai.
“Ond rydym yn gwybod y gall pethau fod gymaint yn well.
“Mae gormod o deuluoedd yn treulio misoedd, ac weithiau blynyddoedd, yn aros am atebion wrth i’r dementia ddatblygu.
“Mae fel ceisio cynllunio taith heb wybod i ble rydych chi’n mynd na phryd y byddwch chi’n cyrraedd.
“Y tu ôl i bob diagnosis sydd wedi’i ohirio mae teulu sy’n byw gydag ansicrwydd ac yn ceisio paratoi ar gyfer y dyfodol heb y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.”
