Elfyn Evans yn gorffen Rali Paraguay yn y pedwerydd safle
Mae’r Cymro Elfyn Evans wedi gorffen Rali Paraguay yn y pedwerydd safle ar ddiwedd y cymalau olaf ddydd Sul.
Roedd Evans yn drydydd ar ddechrau’r cystadlu fore dydd Sul, ond collodd ei le ar y podiwm i Adrien Fourmaux o Ffrainc.
Sami Pajari oedd enillydd y rali, ac mae e nawr 20 pwynt y tu ôl i Evans sy’n dal ar frig Pencampwriaeth y Byd.
Dyma’r drydedd rali yn olynol i Pajari ei hennill.
Mae tair rali yn weddill o’r tymor, a bydd y gyrwyr yn symud ymlaen i Chile ymhen pythefnos.
Llun: X/Elfyn Evans
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/2094124808690618638