Cymru Premier: Gemau darbi dydd Llun Gŵyl y Banc
Ar ddydd Llun Gŵyl y Banc, bydd sawl gêm ddarbi yn cael ei chynnal ar draws y wlad yn y Cymru Premier.
Y Barri sydd ar y brig ar ôl ennill eu pum gêm agoriadol y tymor yma, tra bod yna bum tîm yn parhau i aros am eu buddugoliaeth gyntaf.
Dau o’r clybiau rheiny ar waelod y gynghrair yw Hwlffordd a Threfelin, ac mi fydd y ddau dîm yn cyfarfod mewn gêm allweddol ar Ddôl y Bont.
Mae Caernarfon a’r Seintiau Newydd wedi ennill pedair o’u pum gêm hyd yma, felly mi fydd hi’n frwydr fawr rhwng y ddau glwb ar yr Oval.
Airbus UK (11eg) v Treffynnon (16eg) | Dydd Llun – 14:30
Mi fydd un o gemau darbi Sir y Fflint yn cael ei chynnal ar y Maes Awyr rhwng dau o’r newydd-ddyfodiaid.
Gorffennodd Airbus un safle uwchben Treffynnon ar ddiwedd y tymor diwethaf, gyda 15 o bwyntiau yn fwy na’u cymdogion, ac mae yna fwlch sylweddol rhwng y timau eto eleni gan fod Airbus wedi ennill dwy allan o bump, tra bod Treffynnon yn waglaw ar waelod y tabl.
Treffynnon sydd â’r record amddiffynnol wannaf yn y gynghrair (ildio 4 gôl y gêm), a bydd rhaid i’r ymwelwyr geisio rhwystro capten Airbus rhag tanio o bellter, gan i Jordan Evans rwydo dwy gôl gampus o du allan i’r cwrt yn y pythefnos diwethaf.
Dyw Airbus m’ond wedi colli un o’u saith gornest ddiwethaf yn erbyn Treffynnon (ennill 4, cyfartal 2), ac yn Hydref 2024 fe sgoriodd George Peers bedair o goliau mewn buddugoliaeth arbennig o 8-3 i fechgyn Brychdyn.
Record cynghrair diweddar:
Airbus UK: ͏✅❌✅❌❌
Treffynnon: ͏❌❌❌❌❌
Cambrian (8fed) v Pen-y-bont (6ed) | Dydd Llun – 14:30
Roedd hi’n ganlyniad siomedig i Ben-y-bont nos Wener wrth i’r Gleision ildio’n hwyr yn erbyn Y Fflint, oedd wedi colli pob un o’u gemau cyn cipio pwynt yn Stadiwm Dragonbet (Pen 1-1 Ffl).
Er hynny, mae Pen-y-bont yn parhau’n ddi-guro, ond bydd Rhys Griffiths yn disgwyl ymateb yn syth gan ei garfan os am geisio cystadlu tua’r copa y tymor hwn.
Mae Cambrian wedi cael dechrau taclus i’w tymor cyntaf yn yr uwch gynghrair ar ôl ennill dwy o’u pum gêm hyd yma (vs Hwlffordd a’r Fflint).
Mae’r clybiau wedi cyfarfod ddwywaith yn y gorffennol, yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru yn 2021 a 2025, ac fe enillodd Pen-y-bont oddi cartref o 1-3 yn y ddwy ornest gyda James Crole yn sgorio hatric yn y fuddugoliaeth ddiwethaf yn Nhachwedd 2025.
Record cynghrair diweddar:
Cambrian: ͏❌͏➖✅✅❌
Pen-y-bont: ͏ ➖✅✅✅➖
Hwlffordd (15fed) v Trefelin (14eg) | Dydd Llun – 14:30
Bydd un o gemau mwya’r penwythnos yn cael ei chwarae ar Ddôl y Bont rhwng dau dîm sydd wedi stryffaglu yn ystod mis Awst.
Mae canlyniadau Hwlffordd wedi synnu pawb am y rhesymau anghywir gan fod yr Adar Gleision yn dal heb sicrhau pwynt, nac wedi sgorio r’un gôl wedi pum gêm.
Dyw pethau fawr gwell yn Nhrefelin gyda phencampwyr y de m’ond wedi sicrhau un pwynt o’r 15 posib, ac hynny ar ôl sgorio gôl ddramatig hwyr yn erbyn naw dyn Rhydaman nos Wener (Tfl 1-1 Aman) – eu hunig gôl hyd yma.
Hon fydd y gêm gyntaf erioed rhwng y ddau glwb a bydd y timau’n benderfynol o sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn y frwydr fawr hon yn y Chwech Isaf.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ͏❌❌❌❌❌
Trefelin: ͏❌❌❌❌➖
Llansawel (9fed) v Y Barri (1af) | Dydd Llun – 14:30
Y Barri sy’n arwain y pac wedi pum buddugoliaeth ar ddechrau’r tymor, sy’n record syfrdanol o ystyried eu bod wedi colli gymaint o’u prif chwaraewyr dros yr haf.
Ond bydd Steve Jenkins yn awyddus i gadw ei draed ar y ddaear, gan mae’r Barri yw’r unig dîm yn y gynghrair sydd heb wynebu dim un o’r clybiau orffennodd yn y Chwech Uchaf y tymor diwethaf.
Mae Llansawel yn eistedd yng nghanol y tabl, ac mae goliau wedi bod yn brin i dîm Andy Dyer yn eu pum gêm agoriadol gan mae dim ond Hwlffordd (0) a Trefelin (1) sydd wedi sgorio llai na Llansawel (4).
Er i’r Barri orffen pum safle’n uwch na Llansawel y tymor diwethaf, fe enillodd y Cochion eu dwy gêm yn erbyn y Dreigiau.
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ͏✅➖❌͏✅❌
Y Barri: ͏✅✅✅✅✅
Rhydaman (12fed) v Met Caerdydd (7fed) | Dydd Llun – 14:30
Mae Rhydaman yn dal i aros am eu buddugoliaeth gyntaf yn yr uwch gynghrair ar ôl ildio’n hwyr mewn gêm rwystredig yn Nhrefelin nos Wener (Tfl 1-1 Aman).
Gorffennodd Rhydaman y gêm gyda dim ond naw dyn ar y cae ar ôl i Euros Griffiths a Callum Thomas weld cardiau coch am godi eu breichiau i wyneb eu gwrthwynebwyr a bydd rhaid i’r rheolwr Wyn Thomas ymdopi heb y chwaraewyr rheiny fydd wedi eu gwahardd am gyfnod.
Bydd Met Caerdydd yn anelu i godi yn ôl i’r Chwech Uchaf ar ôl buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Llansawel nos Wener gyda Jasper Payne ar y sgorwfwrdd eto – yn sgorio ei bumed gôl mewn pum gêm.
Mae Met Caerdydd wedi ennill pob un o’u tair gêm flaenorol yn erbyn Rhydaman, ac fe sgoriodd Sam Jones ddwywaith i’r myfyrwyr yn y fuddugoliaeth ddiwethaf yng Nghwpan Nathaniel MG ym mis Hydref 2022 (Aman 0-3 Met).
Record cynghrair diweddar:
Rhydaman: ͏❌➖❌❌➖
Met Caerdydd: ͏✅✅❌❌✅
Y Fflint (13eg) v Cei Connah (3ydd) | Dydd Llun – 14:30
Roedd yna ryddhad i Lee Fowler nos Wener wrth i’r Fflint sicrhau eu pwynt cyntaf yn y tymor drwy gôl gyntaf Lassana Mendes i’r Sidanwyr (Pen 1-1 Ffl).
Mae Cei Connah wedi codi i’r 3ydd safle ar ôl rhediad rhagorol o bedair buddugoliaeth yn olynol.
Y Nomadiaid yw prif sgorwyr y gynghrair (15 gôl), ac mae’r triawd ymosodol o Hussein Mehasseb (sgorio 4, creu 1), Callum West (sgorio 2, creu 5) a Harry Franklin (3 gôl, creu 1) wedi profi’n ffrwythlon hyd yma.
Mae Cei Connah wedi ennill chwech o’u saith gornest ddiwethaf yn erbyn Y Fflint yn cynnwys crasfa ryfeddol o 7-2 ar Gae y Castell ar ddydd San Steffan 2024.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ͏❌❌❌❌➖
Cei Connah: ͏❌✅✅✅✅
Caernarfon (5ed) v Y Seintiau Newydd (2il) | Dydd Llun – 15:00
Gyda phedair buddugoliaeth mewn pum gêm hyd yma, mae hi wedi bod yn ddechrau cadarn i’r tymor i’r Caneris.
Sgoriodd Zack Clarke hatric yn Nhreffynnon nos Wener i ddringo i frig rhestr y prif sgorwyr gan ddod â’i gyfanswm i saith o goliau mewn pum gêm.
Wedi dechrau digon tawel yn eu tair gêm agoriadol, mae’r Seintiau wedi dod o hyd i’w hesgidiau sgorio wrth iddyn nhw daro pum gôl yn eu dwy gêm ddiwethaf (Met 0-5 YSN, YSN 5-1 Bae).
Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill eu wyth gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon, ac fe sgoriodd 11 o chwaraewyr gwahanol i’r Seintiau’n erbyn y Cofis y tymor diwethaf, yn cynnwys Adrian Cieslewicz, sydd bellach wedi ymuno â’r Caneris.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ͏✅❌͏✅✅✅
Y Seintiau Newydd: ͏͏➖✅✅✅✅
Bae Colwyn (10fed) v Llandudno (4ydd) | Dydd Llun – 17:15 (Yn fyw arlein)
Bydd darbi fawr Sir Conwy yn fyw ar Sgorio brynhawn Llun wrth i Landudno geisio parhau â’u dechrau rhagorol i’r tymor.
Enillodd Llandudno o 2-0 yn erbyn Hwlffordd nos Wener i’w gwneud hi’n 23 buddugoliaeth gartref yn olynol i dîm Jordan Hadaway.
Ond mae gan Fae Colwyn record berffaith gartref y tymor hwn hefyd ar ôl curo Trefelin ac Airbus ar Ffordd Llanelian, heb ildio gôl.
Mae Bae Colwyn ar rediad o bedair gêm heb golli yn erbyn Llandudno (ennill 1, cyfartal 3), a bydd Michael Wilde yn mynnu perfformiad gan ei garfan ar ôl colli o 5-1 yn erbyn Y Seintiau Newydd nos Wener.
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ͏✅➖❌✅❌
Llandudno: ͏✅✅✅❌✅