‘Diweddglo hapus’ i Turbo’r ci defaid yn sbarduno ymgyrch newydd yng Ngwynedd
Mae perchennog ci defaid a ddiflannodd o fferm ym Mhen Llŷn cyn cael ei ganfod 200 milltir i ffwrdd wedi lansio ymgyrch newydd i godi ymwybyddiaeth ymwelwyr o gŵn gweithio.
Cafodd Turbo, ci defaid saith oed, ei ganfod ar ochr ffordd yn Derby ym mis Gorffennaf - dair wythnos ar ôl iddo ddiflannu o Fferm Berthaur yn Llangwnnadl.
Yr wythnos hon, lansiodd Ms Williams yr ymgyrch ar faes Sioe Sir Feirionnydd yn Nolgellau, gyda’r nod o helpu ymwelwyr i adnabod cŵn gweithio a gwybod beth i’w wneud os byddant yn dod ar draws ci ar ei ben ei hun yng nghefn gwlad.
Mae hi’n cydweithio â ffermwyr a sefydliadau yng Ngwynedd i greu posteri ar gyfer mannau cyhoeddus, ac arwyddion i’w gosod ar gatiau ffermydd.
“Er bod 'na lot o boeni 'di bod yn sgil diflaniad Turbo, mae'n braf ofnadwy mai diweddglo hapus 'da ni wedi ei gael i'n stori ni,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Mae’n beth braf bod ’na beth positif wedi dod o’r stori, sef cychwyn yr ymgyrch yma i drio sicrhau bod ’na lai o achosion tebyg a bod mwy o bobl sy’n colli eu cŵn yn cael yr un diweddglo hapus a gafon ni.”
Dywedodd mai’r gobaith yw “addysgu twristiaid am ein ffordd o fyw ni yng nghefn gwlad” a helpu pobl i adnabod y gwahanol fathau o gŵn gweithio.
“Mae cymaint o’n llwybrau cyhoeddus ni yn mynd drwy ffermydd lle mae ’na o bosib gŵn gwaith ar y fferm,” meddai.
“'Da ni’n trio addysgu pobl i ddefnyddio’r synnwyr cyffredin o bicio i’r fferm lawr y lôn i holi os oes rhywun yn adnabod y ci, ac ella gofyn mewn siopau lleol yn lle bod ni'n mynd yn syth bin at y milfeddyg.
“Wrth gwrs, y cam nesaf wedyn, tasa neb yn adnabod y ci, fysa mynd â fo at y milfeddyg a sganio’r sglodyn.
“Ond be’ da ni’n drio neud ydi cadw pethau o fewn y milltir sgwâr ac yn nes at adra, achos yn aml iawn mae ci gwaith yn agos iawn at y tir.”
Un arall sy’n rhan o’r ymgyrch ydi Llinos Owen o Fferm Cwm Cloch ym Meddgelert.
Wythnos ar ôl i Turbo ddiflannu, fe aeth ei chi Huntaway, o’r enw Storm, ar goll hefyd.
Gan fod llwybrau cyhoeddus yn croesi'r ddwy fferm, mae'r ddwy yn amau bod ymwelwyr wedi mynd â'r cŵn o dan yr argraff eu bod yn ddigartref.
Daeth Ms Williams ar draws llun o Storm ar Facebook, lle'r oedd yn cael ei hysbysebu ar gyfer cartref newydd ddyddiau ar ôl iddi ddiflannu.
Mae Storm bellach yn ôl adref, ond dywedodd Ms Owen fod y ddau achos wedi tynnu sylw at ddiffyg ymwybyddiaeth ymhlith rhai ymwelwyr o rôl cŵn gweithio.
“Ma’ pobl sy’n dod o’r trefi ‘ma, maen nhw’n edrych ar unrhyw gi fel ci anwes, wedyn dwi’m yn meddwl bod nhw’n ymwybodol o sut mae bywyd cefn gwlad yn gweithio,” meddai.
“Wedyn, os maen nhw’n gweld ci yn rhydd, maen nhw’n trio gwneud y peth gorau i helpu’r ci.
“Ond weithiau, oherwydd diffyg dealltwriaeth o ran ci ffarm - ac mae ‘na wahanol fathau o gŵn fferm - dydy nhw ddim yn gwneud y peth iawn.”
Yn ôl Ms Owen, mae’r posteri’n cynnig cyngor syml i bobl sy’n dod ar draws ci ar ei ben ei hun.
“Y cam cyntaf ydi, os ‘da chi’n gweld ci yn rhydd o gwmpas ardal ffarm, ewch â fo i’r tŷ agosaf,” meddai.
“Mae honna’n neges bwysig iawn - bod nhw’n gwneud y cam yna’n gyntaf cyn gwneud unrhyw beth arall.”
Mae cynrychiolwyr o Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Gwynedd, Undeb Amaethwyr Cymru ac NFU Cymru yn rhan o’r ymgyrch.
Mae tudalen Facebook, Cŵn Fferm Coll, hefyd wedi’i sefydlu, er mwyn i bobl rannu gwybodaeth am gŵn sydd wedi mynd ar goll.
“Y gobaith ydi y bydd ’na aelodau o’r rhwydwaith, ffermwyr lleol a phobl sy’n byw yng nghefn gwlad yng Ngwynedd yn medru helpu dod o hyd i bwy sydd wedi colli’r ci yn gynt na gorfod mynd trwy’r holl gamau eraill,” meddai Ms Williams.
Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn “falch” o weld y prosiect yn cael ei ddatblygu.
“Mae gan brosiectau sy’n helpu i hwyluso cyfathrebu rhwng sefydliadau’r potensial i leihau’r gofid i berchnogion pan fydd eu cŵn yn mynd ar goll, a helpu i ddod â chŵn yn ôl at eu perchnogion yn gynt,” meddai’r cyngor.
“Gall hyn hefyd arwain at ddefnydd gwell o adnoddau’r Cyngor yn y tymor hir.”