Ci defaid oedd ar goll o fferm ym Mhen Llŷn wedi’i ganfod 200 milltir i ffwrdd

Elen Hughes a Turbo

Mae ci defaid a oedd ar goll o fferm ym Mhen Llŷn wedi cael ei ganfod 200 milltir i ffwrdd yn dilyn ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol.

Roedd Turbo, ci defaid saith oed, wedi diflannu o’i gartref ar Fferm Berthaur yn Llangwnnadl ar ddiwedd mis Mehefin.

Cafodd ei ganfod ar ochr ffordd yn ninas Derby, yn nwyrain canolbarth Lloegr, dair wythnos yn ddiweddarach, cyn cael ei drosglwyddo i filfeddygfa leol.

Dywedodd ei berchennog, Elen Williams, nad oedd geiriau i ddisgrifio'r teimlad o wybod fod Turbo yn ddiogel.

"Ges i alwad ffôn bore ddoe, ac o'n i'n gwybod yn syth achos nathon nhw ofyn, 'Is that Elen Hughes?' Dyna'r cyfenw o'n i wedi'i ddefnyddio i'w gofrestru cyn i fi briodi," meddai wrth Newyddion S4C.

"Dyma nhw'n gofyn, 'Have you lost a dog?'

"'Oh my God, yes,' medda fi.

"Dyma hi'n dweud ei enw fo, a nes i ddechrau crio'n syth."

Yn dilyn yr alwad gan y filfeddygfa, gyrrodd Ms Williams i Derby ar unwaith.

"Pan nes i gyrraedd y filfeddygfa, nath Turbo ymateb i fi'n syth," meddai.

"Roedd y merched yno i gyd yn crio, achos oedden nhw'n amlwg wedi bod yn edrych ar Facebook ac wedi gweld cymaint oeddan ni wedi bod yn chwilio amdano fo.

"Mi ddywedon nhw, 'No wonder he doesn't react to us - he only speaks Welsh!'"

Image
Cwn Elen Williams
Turbo yn ôl adref ym Mhen Llŷn

Dywedodd Ms Williams ei bod wedi bod yn cydweithio â grŵp Muddy Paws Crime ar Facebook, tîm o wirfoddolwyr sy'n helpu i ymchwilio i achosion o gŵn coll.

Ar ôl dod o hyd i luniau teledu cylch cyfyng a rhifau cofrestru ceir oedd yn ardal Llangwnnadl pan ddiflannodd Turbo, cyhoeddodd y grŵp ddatganiad ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Fyswn i ddim yn synnu mai post y grŵp yna sydd wedi dychryn pwy bynnag oedd wedi bod yn ei gadw," meddai Ms Williams.

"Dim ond dyfalu yda ni, ond mae o'n amlwg wedi bod mewn tŷ efo rhywun achos mae o wedi'i glipio.

"Mae o naill ai wedi denig, neu maen nhw wedi penderfynu ei fod o'n too hot to handle."

Mae Ms Williams yn dweud ei bod yn ddiolchgar am y gefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Os fysa fo heb gael y fath sylw, dwi'm yn meddwl fysa ni wedi gallu cael o'n ôl," meddai.

"Mi fysan nhw wedi gallu ei gadw fo'n ddistaw bach, felly dwi'n diolch i bawb am y sŵn."

Er gwaethaf yr antur, dywedodd fod Turbo bellach yn ôl yn ei gynefin.

"Pan oedd y gŵr yn dod adra neithiwr a gweld Turbo o flaen y tŷ, o'n i'n meddwl, 'Dyna ni, mae'r darn jig-so coll yn ôl,'" meddai.

Ychwanegodd: "Mae o'n hapusach mewn baw ac yng nghanol defaid nag ar soffa wen ar ôl cael siampŵ."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.