Elfyn Evans yn y trydydd safle yn Rali Paraguay

Elfyn Evans

Mae’r Cymro Elfyn Evans yn y trydydd safle yn Rali Paraguay ar ddiwedd yr ail ddiwrnod o gystadlu.

Mae Evans yn 56.1 eiliad y tu ôl i Sami Pajari o’r Ffindir sy'n arwain y rali ar hyn o bryd.

Ond mae gan Evans her i ennill lle ar y podiwm, gan fod Adrien Fourmaux o Ffrainc yn dynn ar ei sodlau. 

Dim ond 3.3 eiliad o fantais sydd gan Evans, gyda phum cymal o’r rali yn weddill ddydd Sul.

Mae Evans ar frig Pencampwriaeth y Byd, gyda thair rali’n weddill ar ôl Paraguay.

Mae ganddo fantais o 30 pwynt dros Pajari.

Dywedodd Evans: “Mae Adrien wedi cael diwrnod da, ond nid oedd colli cymaint o amser ar y 'super special' heno yn rhan o'r cynllun. 

“Mae disgwyl amodau anodd fory, ac mae llawer i frwydro drosto, a byddwn yn gwneud ein gorau glas.”

Llun: X/Elfyn Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.