Pob un o luoedd yr heddlu i gael tîm arbenigol i daclo troseddau rhyw erbyn 2027
Bydd swyddogion yr heddlu sy’n arbenigo mewn ymchwiliadau treisio a throseddau rhyw yn cael eu cyflwyno i bob llu yng Nghymru a Lloegr erbyn diwedd 2027 - tua blwyddyn a hanner yn gynt na’r disgwyl.
Mae'r Prif Weinidog newydd, Andy Burnham, wedi beirniadu’r terfyn gwreiddiol ar gyfer sefydlu’r swyddi - sef haf 2029 - gan ddweud fod hynny’n “rhy araf” a bod angen i weinidogion ganolbwyntio'n ofalus ar fynd i’r afael â thrais yn erbyn merched a menywod.
Cafodd y mesurau a’r amserlen wreiddiol eu cyflwyno gan lywodraeth Syr Keir Starmer.
“Mae’n annerbyniol cymaint o drais a cham-drin mae menywod a merched yn y wlad hon yn eu dioddef,” meddai Mr Burnham.
“Roedd y mesurau hyn yn mynd i gael eu cyflwyno yn 2029, ond dwi’n credu bod hynny’n rhy araf.
“Felly ‘dyn ni’n mynd ati i gyflymu’r broses o gyflwyno timau sy’n arbenigo ar dreisio a throseddau rhyw, a fydd yn mynd ar ôl drwgweithredwyr, yn gorfodi gorchmynion diogelu (protection orders) newydd i amddiffyn goroeswyr ac yn buddsoddi mewn rhaglenni i ddwys reoli troseddwyr er mwyn chwalu cylchdro cam-drin parhaus.”
Cryfhau mesurau diogelu
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol i gryfhau gorchmynion diogelu, sy’n gallu cael eu gweithredu gyda help tagiau trydanol, gwaharddiadau rhag mynd i ardaloedd penodol a rhaglenni hyfforddiant i annog newid ymddygiad.
Bydd hyd at 10 llu yng Nghymru a Lloegr yn cael cyfran o gronfa gwerth £13.3 miliwn i gefnogi timau arbenigol i wella’r ffordd mae gorchmynion o’r fath yn cael eu gorfodi a’u rheoli. Fe fydd yr arian yn dod o gyllideb y Swyddfa Gartref.
Mae newidiadau i orchmynion diogelu yn golygu eu bod bellach yn gallu cael eu gosod am gyfnod amhenodol, fel bod dioddefwyr ddim yn gorfod ail-ymgeisio amdanyn nhw dro ar ôl tro.
Daw’r cyhoeddiadau wrth i Mr Burnham wynebu pwysau a beirniadaeth ynghylch y rhaglen i ryddhau troseddwyr yn fuan, sy’n anelu at leihau’r pwysau ar garchardai. Mae ymgyrchwyr wedi annog y Prif Weinidog i eithrio dynion sydd wedi troseddu yn erbyn merched rhag cael eu rhyddhau.