Ail-agor yr A55 i'r ddau gyfeiriad wedi digwyddiad heddlu
27/08/2026
Mae ffordd yr A55 wedi ail agor i'r ddau gyfeiriad ger Abergele yn Sir Conwy yn dilyn "digwyddiad heddlu".
Dywedodd Heddlu’r Gogledd bod y ffordd wedi cau wrth iddyn nhw ddelio gyda'r digwyddiad oedd yn ymwneud â phryder am ddiogelwch.
Dywedodd asiantaeth Traffig Cymru fod y ffordd wedi bod ar gau i'r ddwy ffordd rhwng Cyffordd 23a Pensarn a Chyffordd 24 Abergele fore dydd Iau.
Daeth cadarnhad am 08:50 fod y ffordd wedi ail agor.
Mewn datganiad, dywedodd yr Heddlu: "Mae tagfeydd yn debygol yn yr ardal am beth amser, ac rydym ni'n diolch am eich dealltwriaeth a'ch amynedd."