Ffrindiau Josh Roberts yn cychwyn her 100 milltir o Lerpwl i Gaernarfon
Mae criw o ffrindiau Josh Lloyd Roberts wedi cychwyn taith gerdded dros 100 milltir o Lerpwl i Gaernarfon er cof amdano.
Fe ddechreuodd yr her bedwar diwrnod yn Stadiwm Hill Dickinson, cartref newydd Everton, fore dydd Iau, a bydd yn gorffen yn Stadiwm yr Oval, cartref Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon, ddydd Sul.
Roedd Josh, oedd yn cael ei adnabod gan lawer fel “Pickle”, yn gefnogwr brwd o’r ddau glwb, a dyna’r rheswm dros ddewis y mannau cychwyn a gorffen.
Bu farw yn 19 oed mewn gwrthdrawiad yng Nghaeathro ger Caernarfon ar 2 Mehefin 2023.
Roedd yn wreiddiol o Gaernarfon ac yn astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Fe fyddai wedi dathlu ei ben-blwydd yn 23 oed ddydd Gwener, ar ail ddiwrnod yr her.
Dywedodd un o’r trefnwyr, Iwan Wyn Bohana: “O’dd Josh yn berson clên, o’dd o’n gyfeillgar, o’dd o’n ffrind i bawb fel ‘dach chi’n gweld efo faint o gefnogaeth ma’r her ‘di gael.
“O’dd o’n rywun o’dd yn licio mynd allan am beint, mynd allan i watchiad Caernarfon, o’dd o’n chwara' ffwtbol i Bontnewydd a o’dd ffwtbol yn agos iawn i’w galon o.”
Mae’r daith yn codi arian at Gôl Cymru, Clwb Ieuenctid Porthi Dre a Two Pints Deep.
Mae Gôl Cymru a Phorthi Dre yn cefnogi pobl ifanc, tra bod Two Pints Deep yn annog dynion i siarad yn agored am eu hiechyd meddwl.
Mae mwy na £4,775 wedi’i godi, gyda tharged o £5,000.
Dywedodd mam Josh, Melanie Tookey, fod yr her yn golygu llawer i’r teulu.
“Mae o jyst yn lyfli gweld nhw yn invested yn cadw Josh yn fyw, ei enw fo ‘lly, a dangos faint o argraff na’th o arnyn nhw.
“Nathon ni ddeud yn y diwrnod nathon ni ffarwelio efo Josh, nath Abi [chwaer Josh] ddeud bo' ni 'di colli Josh, ond 'dan ni di gainio 40 o hogiau sydd yn rili annwyl ac yn meddwl amdana ni.”
Mae teulu Josh yn parhau i aros am gwest llawn i’w farwolaeth, ac mae ail wrandawiad cyn-cwest wedi’i drefnu ar gyfer 23 Medi.
Wrth edrych ymlaen at gyrraedd Caernarfon ddydd Sul, dywedodd Iwan: “‘Sa’n edrych lawr yn gwenu os ‘sa fo’n gw‘bod bo’ ni dal yn neud y stwff yma.
“Dwi’n meddwl ‘sa fo’n hapus gweld hynna a dwi’n meddwl bysa fo’n edrych lawr yn gweld ni’n gorffan yn yr Oval dydd Sul, dwi’n meddwl ‘sa fo’n hapus iawn.”