Creu ynni ar dy falconi? Paneli solar plwg-yn-y-wal nawr ar werth ym Mhrydain
Mae paneli solar bychain sy’n cael eu cysylltu â system drydan y cartref gyda phlwg cyffredin wedi mynd ar werth mewn siopau ym Mhrydain am y tro cyntaf.
Daeth rheolau i rym fore dydd Iau sy’n caniatáu i dechnoleg plug-in solar gael ei gwerthu yn y DU.
Mae’r systemau, sy’n trosglwyddo egni o’r haul yn syth i rwydwaith trydan y tŷ, yn arbennig o boblogaidd yn yr Almaen, lle mae paneli’n hongian ar ffensys neu falconïau yn olygfa gyffredin.
Mae pob set yn gallu cynhyrchu hyd at 800 wat o drydan, sy’n gyfystyr ag 20% o ddefnydd trydan y tŷ cyffredin pan fo’r haul yn tywynnu, yn ôl swyddogion.
Y gobaith yw y bydd y paneli, a fydd ar silffoedd nifer o siopau cyfarwydd ac ar-lein, yn cyfrannu at leihau biliau ynni.
Dywedodd swyddogion Llywodraeth y DU y gallai pobl arbed hyd at £110 y flwyddyn ar gostau trydan drwy ddefnyddio’r dechnoleg. Mae’r llywodraeth yn disgwyl i’r setiau gostio tua £400-£600 yn y pen draw, er y gallen nhw fod yn ddrutach i gychwyn.
“Mae plug-in solar yn ffordd syml a fforddiadwy i aelwydydd gymryd rheolaeth o’u biliau trydan a dechrau arbed yn syth,” meddai Miatta Fahnbulleh, Ysgrifennydd Ynni Llywodraeth San Steffan.
“Gan ddechrau’r haf hwn, rydyn ni’n rhoi’r grym i deuluoedd drydanu eu cartrefi gydag ynni cartref glân.”
Pam nawr?
Cyn y newid yn y rheolau, roedd gwerthiant paneli solar o’r fath wedi’i gyfyngu ym Mhrydain oherwydd amheuon ynghylch diogelwch.
Ond mae gweinidogion yn dweud bod profion annibynnol, a wiriodd yr holl elfennau trydanol allweddol, wedi dangos bod paneli sy’n cydymffurfio â’r rheolau yn ddiogel i’w cysylltu â systemau trydan y DU. Mae masnachwyr gan gynnwys Currys, B&Q, Amazon a Lidl wedi cydweithio â'r llywodraeth i sicrhau bod y setiau'n cyrraedd y farchnad.
Er hynny, bydd yn rhaid i nifer o’r rheiny sy’n bwriadu gosod y paneli ofyn am ganiatâd gan berchennog yr adeilad neu awdurdodau lleol cyn gwneud hynny, a bydd angen cael caniatâd cynllunio mewn rhai achosion.
Mae swyddogion yn annog y rheiny sy’n bwriadu bwrw ati i brynu paneli i wirio a oes angen sicrhau caniatâd yn gyntaf, tra bod y llywodraeth wedi ysgrifennu at y Gymdeithas Landlordiaid Genedlaethol yn ei hannog i ystyried ceisiadau i osod y paneli’n ofalus ac i esbonio’u manteision i’w tenantiaid.
Ers 2022, mae mwy nag un filiwn o setiau wedi cael eu gwerthu yn yr Almaen, llawer mwy nag mewn unrhyw wlad arall yn Ewrop. Yn 2024, cafodd y rheolau eu newid fel bod perchnogion a thenantiaid fflatiau yn cael gosod y paneli ar eu balconïau eu hunain.
Lluniau: Nikolai Twin/PantheraLeo1359531, CC BY 4.0 drwyWikimedia Commons