Tad gweithiwr Trysorlys a fu farw drwy hunanladdiad yn gobeithio bod ‘gwersi’n cael eu dysgu’

Chloe Moffat

Rhybudd: Fe allai cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai.

Mae tad gweithiwr yn y Trysorlys a fu farw drwy hunanladdiad y diwrnod ar ôl cyfarfod â’r rheolwyr wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd “gwersi’n cael eu dysgu” o’i marwolaeth.

Bu farw Chloe Moffat, 26 oed, ar 20 Mai y llynedd, y diwrnod ar ôl cyfarfod â rheolwyr lle cafodd wybod am honiadau ei bod wedi rhannu gwybodaeth gyfrinachol sensitif, clywedd cwest.

Clywodd Llys y Crwner Surrey fod y Trysorlys wedi “cyfrannu’n sylweddol” at farwolaeth Ms Moffat drwy beidio â dilyn ei bolisi disgyblu ysgrifenedig.

Roedd y polisi hwnnw’n cynnwys dweud wrthi mai rhybudd ysgrifenedig, yn hytrach na diswyddo, oedd y gosb debygol pe bai’r honiadau’n cael eu profi.

Dywedodd ei thad David Moffat nad oedd y Trysorlys wedi dangos unrhyw “ddyletswydd gofal” tuag at Chloe.

Dywedodd wrth raglen Today ar BBC Radio 4: “Doedd dim mesurau diogelu, doedd dim cymorth yn ystod nac ar ôl y cyfarfod hwnnw, o’r hyn rydyn ni wedi’i weld a’i ddarllen.

“Mae’n anodd credu na all sefydliad sydd wrth galon ein llywodraeth ni gael hyn yn iawn.”

‘Annioddefol’

Dywedodd David Moffat ei fod ef a’i wraig wedi cael llythyr ddydd Mawrth gan ysgrifennydd parhaol y Trysorlys, James Bowler. 

Ond nid oedd yn credu bod yr adran wedi derbyn ei chyfran o’r cyfrifoldeb am ei marwolaeth eto.

Dywedodd Mr Moffat wrth y darlledwr fod marwolaeth Chloe wedi “gadael bwlch mor fawr yn ein bywydau”. Ond roedd eisiau “sicrhau… bod gwersi’n cael eu dysgu”.

“Os gall rhywbeth cadarnhaol ddod o’r golled annioddefol hon rydyn ni’n ei dioddef, dyna’r cyfan rydyn ni am ei gyflawni,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys wrth y BBC: “Mae cydymdeimlad dwysaf y Trysorlys yn parhau i fod gyda ffrindiau a theulu Chloe, ac mae’r adran yn parhau i alaru ar ôl colli ein cydweithiwr.

“Byddwn ni’n dysgu’r gwersi o’r drasiedi hon. Rydyn ni’n gweithio ar frys i ymateb i ganfyddiadau’r crwner ac rydyn ni wedi cyflwyno newidiadau ar unwaith i’n trefniadau canllawiau, cymorth a llesiant.

“Mae rhieni Chloe wedi cytuno i gwrdd â ni er mwyn i ni allu clywed eu barn a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am y camau mae’r adran yn eu cymryd.”

Os yw rhai o'r pynciau a drafodir yn yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi mae cymorth ar gael yma. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.