Teyrngedau i Dolly Parton ar ôl iddi farw yn dilyn ‘brwydr fer â chanser’
Mae nifer o sêr mwyaf y byd cerddoriaeth wedi rhoi teyrnged i’r eicon canu gwlad Dolly Parton, a fu farw yn 80 oed ar ôl “brwydr fer â chanser”.
Mewn datganiad i’r cyfryngau, dywedodd Marcel Pariseau, swyddog cyhoeddusrwydd Dolly Parton: “Ar ôl wynebu brwydr fer â chanser yn ddewr, bu farw Dolly heddiw yng Nghanolfan Ganser Vanderbilt-Ingram, gyda’i hanwyliaid o’i chwmpas.”
Roedd y gantores, a oedd yn 80 oed, yn fwyaf adnabyddus am ei chaneuon 9 To 5, I Will Always Love You a Jolene.
Mae baneri wedi cael eu gostwng i hanner mast ledled yr Unol Daleithiau am wythnos ar gyfarwyddyd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.
Wrth bostio ar Truth Social, dywedodd “na fu neb erioed yn debyg iddi”.
Fe wnaeth goleuadau tŵr yr Empire State Building anrhydeddu’r gantores nos Fawrth drwy droi’n “binc pefriog” am 21.25 yn ôl yr amser lleol.
Wrth roi teyrnged iddi, fe wnaeth y seren bop Taylor Swift ddisgrifio Dolly Parton fel “person disglair”.
Fe wnaeth Dolly Parton ddiolch i Swift a’i dyweddi ar y pryd, Travis Kelce, mewn neges ar Instagram fis diwethaf am eu rhodd o ddwy filiwn o ddoleri (£1.4 miliwn) i’w sefydliad dielw, Imagination Library, sy’n rhoi llyfrau am ddim i blant.
Dywedodd Swift, sy’n 36 oed, mewn datganiad a gafodd ei rannu â chyfryngau gan gynnwys People, nad yw “byd heb Dolly yn teimlo’n bosibl, yn real nac yn iawn”.
“Ond oherwydd y ffordd dragwyddol hael y gwnaeth hi dreulio ei hamser ar y ddaear hon, a’r bywydau di-rif y gwnaeth hi eu newid er gwell, bydd ei hetifeddiaeth yn para am byth,” meddai.
Rhoddodd Syr Paul McCartney deyrnged i’r seren canu gwlad mewn neges deimladwy ar Instagram.
Fe wnaeth ei disgrifio fel “seren odidog” a “menyw wych”.
“Roedd ei dawn i ysgrifennu caneuon, ei chanu a’i gwaith dyngarol yn ddigymar ym myd canu gwlad, ac mae’n anodd dychmygu byw mewn byd heb Dolly,” meddai.
Dywedodd Beyoncé, a weithiodd gyda Parton ar ei halbwm Cowboy Carter yn 2024, mewn datganiad ar ei gwefan: “Seren y gogledd. Beiddgar a disglair. Dawnus a dyfal. Fe wnest ti ddysgu cymaint o wersi am sut i fod yn unigryw ac yn driw i ni ein hunain.
“Rwy’n ddiolchgar am dy gelf, dy galon, dy haelioni, dy hiwmor a dy allu entrepreneuraidd.”
Rhoddodd y seren bop Sabrina Carpenter deyrnged hefyd i’r seren canu gwlad, a ymddangosodd ar fersiwn estynedig ei chân Please Please Please.
Dywedodd mewn neges ar Instagram: “Byddaf yn trysori ein chwerthin a’n sgyrsiau, a byddaf yn cadw dy ddoethineb, dy agwedd chwareus at fywyd a dy synnwyr digrifwch perffaith yn fy mhoced ar gyfer y dyddiau glawog.”
Cysylltiadau â Chymru?
Cafodd Parton ei geni yn 1946 a’i magu ar fferm. Nid oedd gan y teulu fawr o arian ac roedden nhw’n byw mewn caban un ystafell ar lan afon yn Tennessee.
Hi oedd y pedwerydd o 12 o blant.
Roedd ei thad, Robert Lee Parton, yn ffermwr tybaco. Yn ôl Dolly Parton, roedd ei mam, Avie Lee, yn arfer canu caneuon gwlad iddi’n aml.
Roedd ei modryb, a oedd yn chwarae’r gitâr ac yn cyfansoddi caneuon, hefyd yn ddylanwad arni.
Mewn rhaglen a gafodd ei darlledu ar BBC Radio Wales ym mis Rhagfyr 2025, fe wnaeth Dolly Parton ymchwilio i’r posibilrwydd bod ganddi deulu yng Nghymru.
Wrth berfformio yng Nghaerdydd yn 2008, dywedodd Dolly Parton bod teulu ei mam, Avie Lee Owens, yn hanu o Gonwy.
Dywedodd hefyd ei bod wedi ymweld â’r wlad tua thair gwaith, a' fod yn "teimlo fel teulu”.
‘Pawb yn ei hoffi’
Yn ôl Terwyn Davies, cynhyrchydd ar raglenni Radio Cymru a sylfaenydd y grŵp Curo’r Corona’n Canu Gwlad ar Facebook, roedd Dolly Parton yn berson didwyll, ac roedd hynny’n esbonio rhan o’i phoblogrwydd byd-eang.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: "O ran y rhestr o gantorion canu gwlad, bydden i'n dweud bod hi'n un o'r rhai sy' ar y brig.
"Pan ti'n meddwl am ganu gwlad, ma' Dolly Parton yn dod i'r meddwl yn syth, ma'i chaneuon hi'n eiconig a hefyd ma'r ddelwedd ohoni, odd' pawb yn ei adnabod hi.
"O'dd rwbeth am bersonoliaeth Dolly Parton o'dd pobl yn hoff ohono, hyd yn oed os nad oeddech chi'n hoff iawn o'i chaneuon, o'dd clywed Dolly Parton yn siarad a'i straeon odd 'da hi, o'dd hi'n ddidwyll iawn, o'dd hwnna'n apelio at fwy o bobl.
"Un peth dyw pobl ddim yn ystyried falle yw mai Dolly Parton nath gyfansoddi y gân I Will Always Love You ddo'th yn enwog gan Whitney Houston ond fe sgwennodd Dolly Parton y gân yn wreiddiol a ro'dd rheolwr Elvis Presley ar y pryd isie i Elvis ganu honna ond na'th Dolly wrthod gadael i Elvis ganu hi.
"Na'th hi recordio fersiwn ei hunan a wedyn yn y 90au wrth gwrs na'th Whitney Houston recordio'r gân a ma' honno wedi dod yn un o'r caneuon enwocaf yn y byd i gyd erbyn nawr."
Ychwanegodd Terwyn Davies y bydd Dolly Parton yn cael ei chofio am ei gwaith dyngarol hefyd: "Bydd Dolly yn cael ei chofio wrth gwrs nid yn unig am y canu a'r actio ond hefyd am yr holl arian ma' hi 'di roi i bobl llai ffodus na hi, o'dd y cynllun o'dd gyda hi Imagination Library yn rhoi llyfre i blant drwy gydol America."

