System goleuadau traffig wrth deithio dramor yn dod i ben

17/09/2021
Twrci

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd y system oleuadau traffig wrth deithio i mewn ac allan o Loegr yn dod i ben.

O 4 Hydref, fe fydd y drefn bresennol o wledydd oren a gwyrdd yn dod i ben, gyda system restr goch yn unig yn cael ei chyflwyno.

Bydd unrhyw le sydd ddim ar y rhestr goch yn cael ei hystyried fel 'gwlad werdd', ac yn ei gwneud yn wlad sy'n rhydd i deithio iddi. 

Newidiadau i reolau profion

Yn rhan o'r cyhoeddiad ddydd Gwener, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud newidiadau i'r rheolau profion i deithwyr. 

Ni fydd y rheolau hynny yn berthnasol i Gymru, serch hynny, gyda'r Gweinidog Iechyd yn dweud y byddant yn "ystyried yn ofalus" cyn cadarnhau unrhyw newid. 

Mae'r newid yn golygu ni fydd angen i deithwyr gymryd prawf Covid-19 cyn teithio i Loegr o dramor.

Yna, o ddiwedd mis Hydref, fe fydd teithwyr sydd wedi eu brechu'n llawn sy'n dychwelyd i Loegr o wledydd sydd ddim ar y rhestr goch yn gallu cymryd profion llif unffordd i brofi am Covid-19 ar eu hail ddiwrnod wedi iddynt ddychwelyd, yn hytrach na phrofion PCR drytach. 

Bydd rhaid i unrhyw un sydd wedi profi'n bositif am yr haint hunanynysu, a chymryd prawf PCR am ddim er mwyn helpu gyda'r broses o adnabod amrywiolion newydd.

Mae disgwyl i'r system newydd fod mewn grym tan y flwyddyn newydd o leiaf.

Dywedodd y Farwnes Morgan: "Byddwn yn ystyried yn ofalus newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i’r mesurau iechyd ar y ffiniau, sy’n cynnwys dileu’r gofyniad i gael prawf cyn ymadael a chyflwyno profion llif unffordd yn lle profion PCR ar yr ail ddiwrnod ar ôl i deithwyr ddychwelyd i’r DU. 

"Bydd ein hystyriaethau wedi’u seilio ar dystiolaeth gadarn a’n prif nod o hyd fydd lleihau’r risg i iechyd y cyhoedd yng Nghymru."

Image
Eluned Morgan
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau fod elfennau o'r newid yn berthnasol i Gymru, ar wahân i'r newidiadau i reolau profion.

Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd gyhoeddi rhestr o wledydd fydd yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr goch o 04:00 ar 22 Medi.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad ddydd Gwener, dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: "Mae dull cydweithredol ar draws y pedair gwlad yn hanfodol i werthuso a gweithredu trefniadau effeithiol ar gyfer rheoli ffiniau.

"Gan fod Cymru'n rhannu ffin agored â Lloegr, a bod y rhan fwyaf o deithwyr i Gymru yn cyrraedd drwy byrth y tu allan i Gymru, nid yw'n effeithiol cael trefniadau polisi iechyd ar y ffiniau ar wahân ar gyfer Cymru".

Y gwledydd hynny yw:

• Twrci

• Pacistan

• Maldives

• Yr Aifft

• Sri Lanka

• Oman

• Bangladesh

• Kenya

Llun: Esginmurat

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.