Newyddion S4C

Pàs Covid-19: 'Y diwydiant nos wedi dioddef digon fel mai'

ITV Cymru 17/09/2021
Torf mewn clwb nos

Mae perchennog clwb nos yng Nghaerdydd yn “cwestiynu” penderfyniad y llywodraeth i wneud Pàs Covid-19 yn orfodol mewn clybiau nos a digwyddiadau yng Nghymru o fis Hydref. 

Cafodd y Pàs Covid-19 ei gyflwyno gan Mark Drakeford mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Gwener. 

Mae rhai o fewn y diwydiant wedi beirniadu'r penderfyniad, ond mae'r Prif Weinidog yn mynnu fod camau o'r fath yn atal mesurau llymach yn y pendraw. 

Yn ôl Nick Newman, mae'r sector lletygarwch wedi dioddef digon dros yr 18 mis diwethaf. 

Image
Nick Newman
Nick Newman (Llun: ITV)

"Mae clybiau nos yn dwyn baich y penderfyniadau amheus ar ran Llywodraeth Cymru.”

“Mae clybiau nos yn sector sydd wedi dioddef fwyaf dros yr 18 mis diwethaf. Mae'n ymddangos nad yw hyn wedi dod allan o unman ac i fod yn onest, rwy'n cwestiynu’r rhesymau tu ôl iddo.

"Mae'r Prif Weinidog yn hoffi cyfeirio at y wyddoniaeth a soniodd yn benodol am systemau cyfnewid air ac mae clybiau nos yn enwog am gael systemau da iawn. Felly ble mae'r dystiolaeth ar gyfer y penderfyniad yma?

“Mae ein busnesau yn ddiogel iawn, mae ein cwsmeriaid yn ystyriol felly rydym wedi profi ein bod yn lleoliadau saff. Maent wedi targedu ein busnesau a'n heconomi yn barhaus ar bob cyfle cyntaf heb y cyfiawnhad i wneud hynny.”

Image
Newyddion S4C
Bydd Pàs Covid-19 yn cael eu gorfodi i bobl dros 18 oed o 11 Hydref. 

Dywedodd Mark Drakeford fod y cam o gyflwyno'r mesurau am bàs Covid-19 wedi ei wneud mewn ymgais i geisio rheoli ymlediad yr haint.

"Y peth olaf rydyn ni am ei weld yw rhagor o gyfyngiadau a busnesau yn gorfod cau eu drysau eto. Dyna pam mae rhaid inni gymryd camau bach ond ystyrlon yn awr i reoli lledaeniad y feirws a lleihau'r angen am fesurau llymach yn nes ymlaen."

'Siomedig'

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Diwydiannau Nos Cymru: "Rydym yn siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi teimlo bod rhaid i bobl ddangos Pàs Covid-19 ar yr adeg yma.”

"Rydyn ni'n dal i deimlo y bydd y mesurau hyn yn cael effaith negyddol ar fusnesau, ac yn creu ystumiad sylweddol i'r farchnad. Dros yr wythnosau nesaf byddwn ni'n cael cyfle i drafod y manylion ymhellach ac asesu'r heriau i'n sector."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.