'Tyst i'w gryfder': Josh Tarling yn drydydd yng nghymal agoriadol y Vuelta ar ôl marwolaeth ei frawd

Josh Tarling
Josh Tarling

Mae’r seiclwr o Gymru, Josh Tarling, wedi ei ganmol wedi iddo ddod yn drydydd yng nghymal agoriadol y Vuelta a España - wyth diwrnod ar ôl i’w frawd Finlay farw mewn gwrthdrawiad.

Penderfynodd y seiclwr 22 oed, a oedd yn rasio dros ei dîm Netcompany Ineos, gymryd rhan yn y Grand Tour, a gynhaliwyd ar gwrs o amgylch Monaco.

Bu farw ei frawd Finlay, a oedd yn 19 oed, wrth gystadlu yn y Volta a Portugal ar 14 Awst pan gafodd ei daro gan gerbyd nad oedd yn rhan o’r ras.

Wrth siarad ar ôl y ras ym Monaco ddydd Sadwrn, dywedodd Josh ei fod yn falch o gael y cyfle i fod yn "brysur gyda phethau eraill".

"Rwy’n hapus ac yn ddiolchgar i’r tîm am adael i mi ddod a rhoi cynnig go iawn arni," meddai. 

"Nes i roi popeth oedd gen i. Doedd gen i ddim y coesau, ond nes i lwyddo i ddod â’r cyfan at ei gilydd yn weddol."

Enillodd Tadej Pogačar o dîm UAE Team Emirates-XRG y cymal o drwch blewyn, gyda’r Prydeiniwr Ethan Hayter o dîm Soudal-Quick Step yn dod yn ail.

Roedd Josh Tarling bedair eiliad y tu ôl i Pogačar, sydd wedi ennill Tour de France bum gwaith.

Cafodd y Cymro o Ffos-y-ffin ger Aberaeron ei gofleidio gan Pogačar cyn y seremoni ar y podiwm.

Dywedodd y seiclwr a chyfarwyddwr rasio Netcompany Ineos, Geraint Thomas, ei fod yn falch iawn o weld Josh yn ôl ar y beic.

"Mae wedi bod yn wych ei gael yma - roedd yn awyddus iawn i rasio ac roedd eisiau mynd yn ôl at ei waith a chael rhywfaint o gysur yn y broses, a bod o gwmpas y tîm a bod mor normal â phosib," meddai.

"Mae’r hyn mae wedi bod drwyddo dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf wedi bod yn annirnadwy.

"I berfformio fel yna ar ddiwedd wythnos fel honno - mae’n wych ac yn dangos ei safon fel person ac fel athletwr. 

"Allwn ni ddim bod yn fwy balch ohono."

'Tyst i’w gryfder'

Fe gollodd y teulu Tarling aelod arall o’r teulu yr wythnos hon hefyd, sef tad-cu’r brodyr, Gerald.

Mewn datganiad ar Instagram, dywedodd Michael, tad y brodyr, ei fod "mor falch" o berfformiad Josh yn y Vuelta a España.

"Ar ôl popeth mae wedi bod drwyddo dros yr wythnos ddiwethaf, mae’r ffaith iddo hyd yn oed ddechrau'r cymal wedi’n syfrdanu," meddai.

"I ddod mor agos at ennill, gorffen yn drydydd ac ennill crys y beiciwr ifanc - mae hynny’n anhygoel ac yn dyst i’w gryfder.

"Mae’n ffordd hir o’n blaenau, yn y Vuelta ac i ffwrdd ohoni, ond fe wnawn ni fynd drwyddi gyda’n gilydd fel teulu.

"Diolch am yr holl negeseuon o gefnogaeth sy’n parhau i ddod i ni i gyd - mae wedi bod yn help enfawr."

Llun: Reuters

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.