Seiclwr o Mauritius yn ennill trydydd cymal Tour of Britain ar y Gogarth yn Llandudno

Llun: Reuters
Kim Le Court-Pienaar

Roedd diweddglo cyffrous i drydydd cymal y Tour of Britain i ferched ar y Gogarth yn Llandudno wrth i’r seiclwr o Mauritius, Kim Le Court-Pienaar, gipio'r fuddugoliaeth.

Y cymal hwn oedd y cyntaf i gyrraedd Cymru eleni, gyda’r daith 104.7km yn cychwyn yn yr Wyddgrug fore Gwener ac yn dringo dros Fryniau Clwyd i Ddyffryn Conwy.

Wedi fynd heibio Llanrwst, tref hanesyddol Conwy a phromenâd Llandudno, roedd rhaid i’r reidwyr oroesi dringfa serth y Gogarth i gwblhau’r cymal.

Fe orffennodd Le Court-Pienaar o dîm AG Insurance – Soudal 13 eiliad o flaen Liane Lippert (Movistar), gyda Caroline Andersson (Liv-Alula-Jayco) yn drydydd.

Le Court-Pienaar sydd bellach yn arwain y daith, sy’n cynnwys pum cymal i gyd, yn y safleoedd cyffredinol ac yn y gystadleuaeth bwyntiau.

Roedd hefyd yn ddiwrnod i gofio i’r Albanes, Laura Dickson (FDJ United – Suez), sydd ar frig tabl Brenhines y Mynyddoedd wedi iddi ddod yn gyntaf ar ddringfeydd Moel Fodiar a Nebo.

Mae’r ras yn symud ymlaen i ganolbarth Cymru ar gyfer ei phedwerydd cymal ddydd Sadwrn.

Bydd y seiclwyr yn cychwyn o Lanidloes ac yn pasio drwy Gwm Elan a Rhaeadr Gwy cyn anelu am y Gororau dros y mynyddoedd. Bydd y llinell derfyn yn nhref y llyfrau, y Gelli Gandryll.

Fe fydd y Tour yn dod i ben yn gyfan gwbl ddydd Sul yn Royal Leamington Spa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.