‘Ein ffordd ni o ddweud diolch’: Cymry’n helpu i atal tanau gwyllt yn Sbaen
‘Ein ffordd ni o ddweud diolch’: Cymry’n helpu i atal tanau gwyllt yn Sbaen
Mae tri Chymro sydd wedi ymgartrefu ar y Costa Blanca yn rhan o frigâd wirfoddol sy’n patrolio’r ardal ac yn helpu i fynd i’r afael â thanau gwyllt.
Mae Aaron Gomer Jones, sy’n wreiddiol o Nefyn, ac Arwel Davies, o ardal Porthmadog, yn aelodau o griw Bomberos Voluntarios Balcón al Mar yn Jávea, neu Xàbia.
Mae Daryl Jones, sy’n wreiddiol o Abertawe, yn ddirprwy bennaeth y frigâd.
Mae Aaron wedi byw yn Sbaen ers tair blynedd. Dywedodd fod ei gefndir fel cyn-filwr, ei waith ym maes diogelwch tân ar setiau teledu a ffilmiau, a thanau ger ei gartref wedi’i ysgogi i wirfoddoli.
Mae Arwel wedi byw yn yr ardal ers dwy flynedd, ar ôl ymweld â hi dros gyfnod o bron i ddegawd.
Dywedodd ei fod wedi teimlo’n rhan o’r gymuned ac wedi dechrau chwilio am gyfle i wirfoddoli.
Wrth lenwi ffurflen gais, nododd ei fod yn siarad Cymraeg, Saesneg a Sbaeneg.
“Felly wnes i gyfweliad dwyieithog, Saesneg a Chymraeg,” meddai.
‘Bach o ofn’
Sefydlwyd y frigâd yn 1981 gan drigolion o’r Swistir er mwyn cynorthwyo cyngor y dref i atal tanau gwyllt ac ymateb i argyfyngau.
Yn ôl adroddiad gan EL PAÍS, mae’r criw bellach yn cynnwys 23 o wirfoddolwyr o sawl gwlad.
Mae poblogaeth Jávea yn cynyddu o tua 30,000 i 120,000 yn ystod yr haf, gyda thai a choedwigoedd pinwydd yn agos at ei gilydd mewn sawl rhan o’r dref.
Nid oes gan Jávea orsaf dân sy’n gweithredu drwy gydol y flwyddyn. Mae’r orsaf agosaf yn Dénia, tua 20 cilometr i ffwrdd.
Mae’r gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi a’u cyfarparu gan gyngor y dref. Maen nhw’n rhannu’r ardal rhyngddynt er mwyn cynnal patrolau, yn enwedig pan fo’r perygl o dân yn uchel.
Maen nhw hefyd yn ceisio atal tanau rhag cychwyn drwy fonitro ardaloedd sych ac atgoffa pobl am gyfyngiadau, gan gynnwys y rheolau ynghylch cynnau barbeciw.
Dywedodd Aaron fod y tanau mawr dros yr haf mewn rhannau eraill o Sbaen ac Ewrop wedi achosi pryder yn lleol.
“Mae pobl ar edge bach, i ddeud y gwir, achos maen nhw’n gweld y tanau yma dros Ewrop,” meddai.
Wrth deithio drwy ardal Madrid yn ddiweddar, dywedodd iddo weld “jyst mwg yn bob man yn hongian ’na”.
“Mae ’na, swn i’n deud, bach o ofn yma," meddai.
Cydweithio
Gall trigolion ddefnyddio ap i nodi lleoliad tân, gan alluogi’r gwirfoddolwyr i ymateb yn gyflym.
Os mai’r gwirfoddolwyr sy’n cyrraedd gyntaf, maen nhw’n dechrau mynd i’r afael â’r tân cyn cydweithio â’r gwasanaethau proffesiynol wrth iddyn nhw gyrraedd.
Rhoddodd Aaron enghraifft o dri thân a ddigwyddodd o fewn tua awr a hanner fis Medi diwethaf.
Roedd y gwirfoddolwyr yn gallu canolbwyntio ar un, Protección Civil ar un arall, a’r diffoddwyr tân llawn amser ar y trydydd.
Lansiwyd cynllun lleol Jávea i atal tanau gwyllt ar ôl tân ym Mharc Naturiol Granadella yn 2016.
Llosgodd y tân 812 hectar, effeithiodd ar fwy na 300 o gartrefi a dinistriodd saith ohonynt.
Diolch
Dywedodd Aaron fod nifer o aelodau’r frigâd wedi dewis byw yn yr ardal ar ôl “disgyn mewn cariad” â’r lle, ei bobl a’i gymuned.
“Y ffordd ni ydy o i ddeud diolch i’r gymuned am groesawu ni,” meddai.
“’Da ni’n fodlon ac yn barod i amddiffyn ein cymuned os mae unrhyw beth yn digwydd.”