Annog pobl ifanc i gael ail ddos brechlyn MenB wrth i gam nesaf y rhaglen frechu ddechrau
Mae pobl ifanc yng Nghymru yn cael eu hannog i ddychwelyd am ail ddos o’r brechlyn MenB wrth i gam nesaf y rhaglen frechu ddechrau.
Mae dros 17,000 o bobl ifanc wedi cael eu dos cyntaf ers i’r rhaglen gael ei chyflwyno ledled Cymru ar 20 Gorffennaf.
Mae’r brechlyn yn cael ei roi mewn dau ddos, gydag o leiaf 28 diwrnod rhyngddynt.
Cafodd y rhaglen dros dro ei chyflwyno mewn ymateb i gyfres o achosion o MenB ledled y DU, gan gynnwys achosion ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Caint ym mis Mawrth.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod angen cael y ddau ddos er mwyn sicrhau’r amddiffyniad gorau rhag clefyd.
Fe wnaeth Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, Nerys Evans, ymweld â chlinig ym Maelfa yng Nghaerdydd ddydd Gwener, lle wnaeth gyfarfod â phobl ifanc oedd yn cael eu hail ddos cyn dechrau yn y brifysgol yr hydref hwn.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Dw i’n annog pob person ifanc cymwys ledled Cymru i ddilyn esiampl y rhai dw i wedi cwrdd â nhw yma yng Nghaerdydd heddiw drwy wneud yn siŵr eich bod chi’n mynd yn ôl i gael yr ail ddos hanfodol hwnnw.
“Os nad ydych chi wedi manteisio ar y cynnig eto, dydy hi ddim yn rhy hwyr. Trefnwch apwyntiad i gael eich dos cyntaf cyn gynted â phosibl.”
Pwy sy’n gymwys?
Mae’r brechlyn am ddim ar gael i bawb a gafodd eu geni rhwng 1 Medi 2007 a 31 Awst 2008.
Mae hefyd ar gael i bobl o dan 25 oed sy’n dechrau cwrs addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf yr hydref hwn.
Bydd pobl ifanc 17 ac 18 oed sy’n gymwys yn cael llythyr gan eu bwrdd iechyd.
Ni fydd pobl eraill o dan 25 oed sy’n dechrau addysg uwch neu addysg bellach breswyl o reidrwydd yn cael llythyr, a dylent gysylltu â’u bwrdd iechyd i drefnu apwyntiad.
Mae modd cael yr ail ddos ym mhrifysgol neu goleg y myfyriwr os nad oes modd ei gael cyn iddyn nhw adael cartref.
Bydd dosau cyntaf ar gael tan 31 Rhagfyr 2026 a’r ail ddos tan 31 Mawrth 2027.
‘Gall ddatblygu’n gyflym’
Mae myfyrwyr sy’n mynd i’r brifysgol am y tro cyntaf tua saith gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefyd meningococol na phobl ifanc o’r un oedran nad ydynt yn y brifysgol.
Mae’r risg yn uwch ymhlith pobl sy’n byw mewn llety a rennir ac yn cymysgu’n agos â grwpiau newydd.
Gall MenB achosi meningitis a sepsis. Er bod y clefyd yn brin, gall ddatblygu’n gyflym ac achosi salwch difrifol.
Dywedodd Dr Chris Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae miloedd o bobl ifanc ledled Cymru eisoes wedi manteisio ar y cynnig i gael brechlyn MenB. Mae hyn yn ddechrau cadarnhaol iawn o ran helpu i amddiffyn y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf wrth iddynt baratoi i fynd i’r brifysgol neu i addysg bellach breswyl.
“Mae clefyd meningococol B yn brin, ond gall ddatblygu’n gyflym ac achosi salwch difrifol. Mae’n hanfodol felly bod pawb sy’n gymwys yn dod ymlaen i gael eu brechu ac, yr un mor bwysig, yn sicrhau eu bod yn cael eu hail ddos.
“Mae dau ddos, yn ddelfrydol cyn dechrau eu cwrs, yn rhoi’r amddiffyniad gorau rhag yr haint dinistriol hwn.”
Mae pobl ifanc hefyd yn cael eu hannog i sicrhau eu bod wedi cael y brechlyn MenACWY, sy’n cael ei gynnig fel arfer ym mlwyddyn naw. Nid yw’r brechlyn hwnnw’n amddiffyn rhag MenB.