Cerddoriaeth Syr Anthony Hopkins yn adrodd hanes ei fagwraeth ym Margam
Mae Syr Anthony Hopkins wedi troi atgofion o’i blentyndod ym Margam ac o’i dad, oedd yn bobydd ym Mhort Talbot, yn ddarnau cerddorol ar gyfer albwm newydd.
Bydd Life Is a Dream yn cael ei ryddhau ddydd Gwener ac mae’n cynnwys cerddoriaeth a gyfansoddodd yr actor dros gyfnod o fwy na chwe degawd.
Mae’r darnau wedi’u perfformio gan Gerddorfa Philharmonia dan arweiniad yr arweinydd Gustavo Dudamel, gyda’r pianydd Sergio Tiempo a’r sielydd Gregorio Nieto hefyd yn ymddangos ar yr albwm.
Mae sawl un o’r cyfansoddiadau wedi’u hysbrydoli gan fagwraeth Syr Anthony yng Nghymru.
Mae Bracken Road yn dwyn i gof y strydoedd, y caeau a’r mynyddoedd o amgylch cartref ei deulu ym Margam yn ystod y 1940au.
Fe gafodd yr alaw ei chreu’n wreiddiol ym 1963, pan oedd Syr Anthony yn actor ifanc yn y Liverpool Playhouse ac yn chwarae piano gefn llwyfan cyn ymarferion.
Mae darn arall, My Fatherland, wedi’i ysbrydoli gan alawon traddodiadol Cymreig ac yn talu teyrnged i’w dad.
Dywedodd Syr Anthony ei fod wedi cyfansoddi’r darn er mwyn “anrhydeddu fy ngwreiddiau diymhongar”.
“Rwy’n fab i fy nhad, y pobydd,” meddai.
Dechreuodd Syr Anthony chwarae’r piano yn bedair oed ac roedd yn cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer dramâu lleol pan oedd yn ei arddegau.
Er iddo ddod yn adnabyddus yn rhyngwladol fel actor, mae wedi parhau i gyfansoddi drwy gydol ei yrfa.
“Cerddoriaeth oedd fy nghariad cyntaf, fy nymuniad cyntaf,” meddai.
“Rwyf wedi bod yn cyfansoddi cerddoriaeth drwy gydol fy mywyd. Mae rhai o’r darnau hyn wedi bod gyda mi ers degawdau ac rwy’n dal i ddychwelyd atyn nhw.”
Cafodd Life Is a Dream ei recordio yn Alexandra Palace yn Llundain ym mis Ebrill eleni, a bydd yn cael ei gyhoeddi ar 21 Awst.
