'Mae'n uffernol': Mwg o danau gwyllt de Cymru'n taro iechyd pobl ag asthma
Mae dau berson o Gaerffili sydd yn byw gydag asthma yn dweud bod effaith y mwg o'r tanau gwyllt diweddar wedi bod yn "uffernol."
Dros y dyddiau diwethaf mae tanau yn Wattsville yn Sir Caerffili, ac yng Nghwm ger Glyn Ebwy, wedi cael effaith ar Morgan Thomas a Lee-Ann Davies.
Mae'r tanau yn yr ardaloedd hynny yn “parhau i gael eu monitro” gan swyddogion, meddai’r gwasanaeth tân.
Cyflwr ar yr ysgyfaint yw asthma sy'n gallu achosi problemau anadlu, gan gynnwys peswch, gwichian a diffyg anadl.
Dywedodd Lee-Ann Davies fod rhaid iddi gael ei chario i mewn i'w thŷ yr wythnos diwethaf, gan fod y mwg oedd yn gorchuddio'r ardal yn ei wneud hi'n anodd iawn iddi anadlu.
Mae'n dioddef o enffysema a COPD, cyflwr sydd yn effeithio ar yr ysgyfaint.
“Roedd gan fy wyres barti y diwrnod o'r blaen ac roeddwn i'n gwichian erbyn i mi gerdded i mewn," meddai wrth Newyddion S4C.
"Cyrhaeddais y grisiau a doeddwn i ddim yn gallu cerdded, ond diolch i Dduw, rhoddodd tad un o'r ffrindiau ysgol [yn y parti] piggy-back i mi i fyny'r grisiau.
“Roeddwn i'n teimlo cymaint o gywilydd, ond roedd rhaid gwneud beth oedd rhaid gwneud.”
Ychwanegodd Lee-Ann Davies ei bod hi wedi gorfod "rhoi ei bywyd o'r neilltu" oherwydd effaith y mwg ar ei hiechyd.
"Mae'n uffernol," meddai. "Rwy'n gallu ei flasu bron bob dydd, a'i arogli yn yr aer, yn enwedig yn ystod y nos.
"Rwy'n cael trafferth cysgu, yn enwedig gyda'r ffenestri wedi'u cau gan fod angen ychydig o aer ffres arna' i, felly rwy' wedi bod yn cael trafferth gyda pheswch ac dod â sbwtwm (fflem) i fyny.
"Ar achlysuron rwy' wedi gorfod mynd allan, ond mae dim ond ceisio cyrraedd y car yn gwneud i mi golli fy ngwynt.”
'Mor ddifrifol'
Mae Morgan Thomas, sydd hefyd yn byw yng Nghaerffili, wedi byw gydag asthma trwy gydol ei fywyd.
Dywedodd wrth Newyddion S4C nad yw wedi bod yn ddibynnol iawn ar ei bwmp asthma dros y blynyddoedd, ond bod effaith y mwg wedi gwneud iddo sylweddoli pa mor ddifrifol gall y cyflwr fod.
“Mor gyflym â chlic bysedd, fe all eich gwddf a'ch ysgyfaint fynd i deimlo'n dynn," meddai. "A phwysau a theimlad o gyfyngder disymwth ar eich brest. 'Dych chi'n dechrau pesychu mwy a mwy.
“Rwy' angen mynd allan i alw fy nghath i mewn [weithiau], a phan oedd hi'n fyglyd y diwrnod o'r blaen roeddwn i'n teimlo fy mrest yn cau'n dynn ar unwaith ac fe ddechreuais beswch a methu anadlu - mae hynny'n frawychus iawn."
Ers i'r tanau gychwyn yn agos i'w gartref, mae Morgan wedi bod yn cario ei fewnanadlydd (inhaler) gydag ef drwy'r amser.
“Er bod gen i asthma, dydw i erioed wedi bod yn hynod ddibynnol ar fy mhwmp, ond yn y munudau hynny, rwy'n cofio pa mor ddifrifol ydy e.
“Mae'n un peth ychwanegol i'w ystyried ar hyn o bryd cyn gadael: 'beth yw'r amodau, ydw i'n ddiogel, oes angen fy mewnanadlydd arna' i?'
“Dydw i ddim wedi arfer poeni am y pethau hyn.”
Dywedodd Lee-Ann fod y digwyddiad yn rybudd pwysig bod tanau yn gallu effeithio ar ei hiechyd, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n llosgi'n agos i'w chartref.
Mae hi wedi gorfod archebu mwy o feddyginiaeth ers i'r tanau gychwyn, gan gynnwys pwmp asthma ychwanegol.
“Mae gen i ddau bwmp nawr, a dw i newydd archebu pwmp glas ychwanegol,” meddai. “Mae'n bryder mawr, hefyd i bobl iach, ac yn enwedig i rywun gyda chlefyd yr ysgyfaint."
Mae tanau yn parhau i losgi mewn sawl rhan o dde Cymru, ac wrth i rai gael eu diffodd mae mwg ohonynt yn dal i basio dros sawl tref.
Cyngor arbenigwyr
Dywedodd Joseph Carter, pennaeth Asthma + Lung UK Cymru, y dylai unrhyw un sydd ag asthma sicrhau eu bod yn cymryd camau i leihau effaith y tanau a'r mwg arnynt.
“Mae mwg o danau gwyllt yn achosi llygredd aer a gall wneud symptomau cyflyrau ysgyfaint yn waeth, fel peswch, gwichian a diffyg anadl," meddai.
“Gall hyn arwain at waethygiad neu drawiad asthma, a all fygwth bywyd.
“Dylai unrhyw un sydd â chyflyrau ysgyfaint fel asthma neu COPD, ac yn byw mewn ardaloedd sydd wedi'u heffeithio gan danau gwyllt, wneud yn siŵr eu bod nhw'n cadw ffenestri a drysau wedi'u cau a chyfyngu ar weithgareddau ac ymarfer corff yn yr awyr agored.”
