Brechlyn yn ‘foment dyngedfennol’ i ymchwil canser

Brechlyn Covid-19

Mae brechlyn sy’n cael ei roi ar y cyd â chyffur wedi atal canser y croen rhag dychwelyd ymhlith cleifion yn ystod treial, gan gynrychioli trobwynt posibl ym maes trin canser.

Er mwyn creu’r pigiad newydd hwn, defnyddiodd gwyddonwyr dechnoleg mRNA, a gafodd ei defnyddio ar gyfer rhai brechlynnau Covid-19.

Dywedodd prif weithredwr cwmni Moderna sydd wedi datblygu y brechlyn fod y canfyddiadau’n cynrychioli “moment dyngedfennol” ym maes ymchwil canser.

Mae Cancer Research UK wedi croesawu yr ymchwil gan ddweud ei fod “yn dangos addewid” ond wedi dweud bod angen adolygu’r data interim yn llawn.

Cafodd y brechlyn, o’r enw Intismeran, ei roi i gleifion â melanoma risg uchel, sef math o ganser y croen, ar ôl iddynt gael llawdriniaeth.

Mae’r canlyniadau cynnar yn dangos bod y pigiad newydd wedi ymestyn y cyfnod yr oedd y cleifion hyn yn rhydd o ganser, o’i roi ar y cyd gyda’r cyffur Keytruda.

Roedd mwy na 1,000 o gleifion â melanoma risg uchel cam dau, tri neu bedwar yn rhan o’r treial cam tri.

Roedd eu cyflwr yn amrywio o diwmorau mawr mewn ardal benodol i ganserau a oedd eisoes wedi lledaenu i rannau eraill o’r corff.

Ymateb

Mae arbenigwyr canser yn dweud bod hyn yn ddatblygiad arloesol, ond maent yn pwysleisio bod angen bod yn ofalus gan nad yw’r canlyniadau llawn wedi cael eu cyhoeddi na’u hadolygu gan arbenigwyr annibynnol.

Dywedodd Dr Talisia Quallo, pennaeth atal a chanfod yn gynnar yn Cancer Research UK: “Mae’n hanfodol bod ymchwil fel hyn yn parhau i gael ei ariannu er mwyn i fwy o bobl â chanser allu cael triniaethau personol i’w helpu i fyw bywydau hirach a gwell.”

Dywedodd Dr Lennard Lee, oncolegydd meddygol ymgynghorol ac athro cyswllt ym Mhrifysgol Rhydychen: “Mae hyn yn sicr yn newyddion da i gleifion â melanoma, ond mae goblygiadau llawer ehangach i’r astudiaeth. Mae’n darparu prawf egwyddor bod brechlynnau canser personol yn gweithio.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.