Gweithio yn Rhif 10 Stryd Downing yn ‘annioddefol’ meddai Sue Gray

Sue Gray - Llun Llywodraeth y DU

Roedd gweithio yn Rhif 10 “yn annioddefol”, meddai cyn-bennaeth staff Syr Keir Starmer yn ei chyfweliad cyntaf ers ymddiswyddo.

Dywedodd y Farwnes Sue Gray bod y brwydrau o fewn y Llywodraeth yn “anodd iawn, iawn”, ac wedi arwain at ofnau bod rhywun yn recordio “popeth rydych chi’n ei ddweud”.

Dywedodd y Farwnes Gray, a oedd yn brif gynghorydd y llywodraeth cyn iddi adael yn 2024, ei bod yn “siomedig” na wnaeth Syr Keir fwy i fynd i’r afael â’r arfer o yrru gwybodaeth negyddol amdani at newyddiadurwyr.

Fe wnaeth y sylwadau wrth drafod ag Ed Balls ar bodlediad Political Currency, yn ei chyfweliad cyntaf ers iddi ymddiswyddo fel pennaeth staff Rhif 10 bron i ddwy flynedd yn ôl.

Pan gafodd ei holi am y briffio yn ei herbyn, dywedodd eu bod wedi dechrau pan oedd Llafur yn yr wrthblaid.

Fe fyddai yn “darllen am bethau yr oeddwn i, yn ôl pob sôn, wedi’u dweud neu heb eu dweud”, ac roedd hynny wedi parhau ar ôl i’r blaid ddod i rym.

“Roeddwn i wastad wedi arddel y farn, fel gwas sifil ac, mewn gwirionedd, fel cynghorydd arbennig, y dylai rhywun allu siarad yn agored,” meddai.

“Ac ni allwn i gofio trafodaethau o’r fath yn cael eu gyrru at y wasg.”

Aeth ymlaen: “Fe gyrhaeddodd bwynt lle’r oeddech chi’n teimlo bod rhywun yn recordio popeth roeddech chi’n ei ddweud.”

'Siomedig'

Pan gafodd ei holi a oedd Syr Keir yn barod i weithredu ynghylch ei phryderon, a dywedodd: “Fe wnes i siarad ag ef gwpl o weithiau am y peth, a dydw i ddim wir eisiau datgelu sgyrsiau unigol, ond roeddwn i’n siomedig na chafodd mwy ei wneud oherwydd rwy’n credu y gallai mwy fod wedi cael ei wneud.”

Mae Llywodraeth Syr Keir wedi wynebu beirniadaeth gan aelodau Llafur, gan gynnwys dirprwy arweinydd y blaid, Lucy Powell, a ddisgrifiodd ddiwylliant “clwb y bechgyn” yn Rhif 10, gyda nifer o “friffiau dienw cas”, yn enwedig yn erbyn menywod.

“Roedd yn bendant yn annioddefol, yn enwedig i mi,” meddai’r Farwnes Gray. “A byddwn i’n dweud na ddaeth yr un o’r briffiau hynny oddi wrthyf i.

“Rwy’n credu ei bod yn anodd iawn, ac roedd yn effeithio arnaf i ac ar fy mywyd.

“Roeddwn i’n cyrraedd y swyddfa’n gynnar iawn yn y bore. Roeddwn i’n gadael yn hwyr er mwyn osgoi... Roedd yn gyfnod anodd iawn, iawn, iawn.”

Ar ôl wythnosau o friffio negyddol yn 2024, cyhoeddodd Sue Gray ei hymddiswyddiad mewn datganiad, gan nodi pryderon ei bod wedi “mynd yn rhywbeth a oedd yn tynnu sylw” oddi wrth waith y Llywodraeth.

Cafodd ei phenodi yn Llysgennad i'r Prif Weinidog dros y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau ond ni wnaeth hi ymgymryd â’i swydd honno.

Roedd y Farwnes Gray ymhlith 30 o arglwyddi newydd y Blaid Lafur a gafodd eu cyhoeddi fis Rhagfyr diwethaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.