Canlyniadau TGAU: 'Mae llwybr pawb yn wahanol' medd Emyr Gibson
Canlyniadau TGAU: 'Mae llwybr pawb yn wahanol' medd Emyr Gibson
A hithau'n ddiwrnod canlyniadau TGAU, mae'r actor a'r canwr Emyr Gibson yn dweud bod "llwybr pawb yn wahanol".
Fe fydd miloedd o bobl ifanc ar draws Cymru yn cael eu canlyniadau TGAU ddydd Iau, cyn penderfynu ar eu cam nesaf yn eu bywydau.
Bydd blwyddyn 10 yn cael canlyniadau cymwysterau newydd TGAU a gafodd eu cyflwyno ym mis Medi 2025, gan gynnwys mathemateg a rhifedd, Saesneg iaith a llenyddiaeth, a Chymraeg iaith a llenyddiaeth.
Bydd disgyblion blwyddyn 11 yn derbyn eu canlyniadau TGAU terfynol, y garfan olaf yng Nghymru i fod wedi astudio'n gyfan gwbl o dan y system TGAU flaenorol.
Ond beth bynnag y canlyniadau, mae Emyr Gibson yn cynghori disgyblion i "beidio â’i gymryd o’n boen" a'n dweud bod modd llwyddo y tu hwnt i fyd ysgol ac addysg bellach.
Mae Emyr, sy’n dod o Ddeiniolen, Gwynedd, hefyd yn DJ, ac fe wnaeth chwarae rhan Meical yn Rownd a Rownd rhwng 2000 a 2018.
Bellach mae’r actor yn gweithio fel ymarferydd creadigol yng nghartref gofal Parc Pendine Bryn Seiont Newydd yng Nghaernarfon lle mae’n cynnig cymorth i bobl oedrannus sy’n byw gyda dementia.
Fe wnaeth Emyr benderfynu peidio â mynd i'r Chweched Dosbarth ar ddiwedd Blwyddyn 11.
"Mi o’dd o’n sefyllfa o ran fi yn Blwyddyn 11. Yn Form 5 pan o’n i’n ysgol, to’n i’m yn teimlo’n hyderus efo ysgrifennu a ‘ballu, ti’n dalld?" meddai wrth Newyddion S4C.
"I fynd i’r Chweched, o’n i jyst yn teimlo to’dd gen i jyst ddim yr hyder, a wedyn actio o’n i isio neud, felly jyst penderfynu mynd i Goleg Menai i neud celfyddydau perfformio achos dyna o’n i isio neud."
'Dilynwch eich llwybr'
Dywedodd Emyr na ddylai pobl ifanc boeni yn ormodol am eu canlyniadau TGAU.
"Wir wan, o ran cael canlyniadau chi, TGAU, peidiwch a’i gymryd o’n boen, wrth gwrs fydda chi’n gallu resitio nhw, cymryd nhw eto fel ma’ nhw’n ddeud," meddai.
"Ond ma’ llwybr pawb yn wahanol ar y byd ‘ma a pan ‘dach chi’n dod i oed fi, fyddwch chi’n dalld hynny, a jyst sticiwch iddi, peidiwch â poeni amdana fo, ma’ ‘na cyn gymaint o betha ‘dach chi’n gallu neud ar y byd ‘ma.
"Sticiwch idda fo, grafftiwch, a hyd yn oed os ‘dach chi’n mynd i’r brifysgol, gwych, os ‘dach chi ddim, dilynwch eich llwybr, dilynwch eich breuddwyd achos coeliwch chi fi, ‘dach chi’n gallu gwneud rwbath ar yr hen fyd ‘ma ‘m’ond i chi roi’ch meddwl arna fo."
'Dysgu ar y job'
Ar ôl mynd ymlaen i astudio celfyddydau perfformio yng Ngholeg Menai, dywedodd Emyr hefyd ei fod yn ddiolchgar iawn am y cymorth a gafodd gan nifer o bobl wrth iddo fireinio'i grefft.
"Ti yn cael cymorth, ges i lawer o gymorth gan Ysgol Glanaethwy a Cefin a Rhian, ma' nhw 'di bod yn wych, a nes i neud Lefel A yn diwedd ond o'dd hynna pan o'n i'n dechra fy ugeiniau," meddai.
"Ges i gyngor pan o'n i'n Coleg Menai bod gen ti ddewis, ti'n mynd a dysgu ar y job neu wyt ti'n mynd i brifysgol.
"O'n i'n edrych fewn i'r brifysgol ond o'dd 'na lot o waith 'sgwennu, ag o'dd o'n cyfri yn andros o fawr i dy farciau di felly to'dd o jyst ddim yn apelio i fi.
"Felly nes i jyst penderfynu cymryd y siawns a gweld pa lwybr fysa'n dod a jyst mynd a dysgu ar y job."

