Ymestyn rhybudd melyn am law trwm a stormydd i'r gogledd

20/08/2026
Storm

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi ymestyn rhybudd melyn am law trwm a stormydd i'r gogledd tan 13:00 ddydd Iau.

Daeth y rhybudd i rym am 19:00 nos Fercher.

Ymledodd glaw drwm ar draws siroedd gogledd Cymru dros nos, gyda pheryg y gallai achosi llifogydd mewn rhai cartrefi a busnesau. 

Rhybuddiodd swyddogion y gallai'r cawodydd achosi oedi ar y ffyrdd ac i drafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal ag amharu ar gyflenwadau trydan am gyfnod.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd: "Mae disgwyl i'r glaw trwm a stormydd taranau barhau ar draws gogledd Lloegr a gogledd Cymru y bore ma cyn tawelu yn y prynhawn. Mae 15-20 mm o law yn debygol o ddisgyn mewn awr mewn mannau, gyda 30-35 mm dros gyfnod o sawl awr."

Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:

  • Conwy
  • Gwynedd
  • Sir Ddinbych
  • Ynys Môn
  • Sir y Fflint
  • Wrecsam

Daw'r glaw wedi wythnosau o dywydd sych ar draws Cymru, sydd wedi arwain at ddatganiad o sychder swyddogol a degau o danau gwyllt ar draws y wlad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.