Instagram a Facebook: Y newidiadau mawr allai ddod pe bai Meta yn colli achos llys
Fe allai'r ffordd mae Instagram a Facebook yn gweithredu newid yn sylweddol pe bai cwmni Meta yn colli achos llys sy'n cychwyn ddydd Mawrth.
Daw'r achos i'r llys wedi i achos cyfreithiol gael ei ddwyn gan 30 talaith yn yr Unol Daleithiau yn 2023, gyda honiadau bod y cwmni wedi methu â chymryd camau digonol i ddiogelu defnyddwyr ifanc rhag niwed.
Mae'r taleithiau, sy'n cynnwys Califfornia ac Efrog Newydd, yn ceisio ennill tua $1 triliwn (£739.35 biliwn) gan Meta, yn ogystal â mynnu newidiadau i Facebook ac Instagram, gan gynnwys cuddio nifer y 'likes' a dod â sgrolio di-baid i ben.
Pe bai Meta yn colli'r achos llys hwn, fe allai arwain at newid yn y ffordd mae pobl ifanc yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol.
Beth allai newid?
Mae sawl peth y mae'r taleithiau hyn eisiau ei newid, sef:
-Gweithredu polisi lle mae rhieni yn gwirio'r broses o greu cyfrifon ar gyfer defnyddwyr yn eu harddegau
-Newid ei algorithmau sy'n cadw pobl ar eu ffonau symudol ac yn sgrolio am gyfnodau hir
-Cael gwared ar unrhyw osodiadau sy'n gallu newid sut mae rhywun yn edrych mewn lluniau
-Cael gwared ar y gosodiad sy'n chwarae fideos yn awtomatig un ar ôl y llall
-Atal y gallu i greu sawl cyfrif
-Cael gwared ar gynnwys sy'n diflannu, fel Instagram Stories.
Mae'r uchod i gyd yn rhan ganolog o'r ffordd mae pobl yn defnyddio Facebook ac Instagram ar hyn o bryd.
Dywedodd y taleithiau fod y nodweddion hyn wedi eu dylunio i gadw plant a phobl ifanc ar y platfformau mor hir â phosib, ac maen nhw'n honni bod Meta yn ei wneud yn anodd i bobl adael y platfformau.
Ychwanegodd y taleithiau fod Meta yn "dewis ecsploetio" pobl ifanc er mwyn eu cadw ar y platfformau a thyfu'r busnes.
Mae gwerth Meta ar y farchnad stoc heddiw tua $1.5 triliwn (£1.108 triliwn).
Mae Meta yn gwrthod yr honiadau yn ei erbyn, gan ddweud eu bod yn "hyderus y bydd y dystiolaeth yn dangos ein hymrwymiad hirhoedlog i gefnogi pobl ifanc."
Mewn achos llys ar wahân yn ddiweddar, roedd barnwr yn yr Unol Daleithiau wedi gorchymyn i Meta dalu $567m (£421m) am fethu â rhybuddio’r cyhoedd yn ddigonol am y peryglon y gallai eu platfformau eu hachosi i blant.
Pryderon
Mae pryderon wedi’u codi ers blynyddoedd ynghylch effaith cyfryngau cymdeithasol ar iechyd meddwl pobl ifanc, yn ogystal â’r posibilrwydd y gallai plant ddod ar draws cynnwys niweidiol neu gael eu targedu gan unigolion ar-lein.
Mae’r cwmni wedi cyflwyno nifer o fesurau diogelwch dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys mwy o reolaethau ar gyfrifon pobl ifanc a chyfyngiadau ar y math o gynnwys sy’n cael ei argymell iddynt.
Ond mae achosion cyfreithiol yn erbyn Meta yn parhau, gyda’r cwmni’n wynebu honiadau ei fod wedi gwybod am rai o’r risgiau i blant heb weithredu’n ddigon cyflym i fynd i’r afael â nhw.
