'Llafur cariad anferthol': Unig siop lyfrau Gymraeg Sir Conwy yn ailagor ar ôl gwaith adnewyddu
Bydd yr unig siop lyfrau Cymraeg yn Sir Conwy yn ailagor ddydd Mercher ar ôl pum mis o waith adnewyddu.
Fe wnaeth pobl Dyffryn Conwy godi mwy na £125,000 mewn cyfranddaliadau er mwyn prynu adeilad Bys a Bawd Pawb yn Llanrwst, wedi i’r perchennog blaenorol, Dwynwen Berry, roi’r siop ar y farchnad y llynedd.
Mae’r siop bellach wedi cael ei hadnewyddu’n llwyr, gyda chymorth grantiau a benthyciad yn ogystal â chyfraniadau gan y gymuned.
Dywedodd cadeirydd Cymdeithas Bys a Bawd Pawb, Nia Clwyd Owen, fod y prosiect wedi bod yn "llafur cariad anferthol gan y fro gyfan".
"Mae wedi bod yn ysbryd o fentergarwch a chefnogaeth broffesiynol gan sefydliadau fel Menter Iaith Conwy ynghyd â chrefftwyr lleol i gyrraedd lle rydyn ni heddiw," meddai.
"Ar lefel bersonol, doeddwn i ddim wedi rhagweld y byddwn yn dewis cegin, cydweithio â phensaer na stelcian ledled Cymru yn edrych ar nwyddau a chrefftau newydd sbon i’r siop.
"Mae wedi bod yn brofiad anhygoel a dwi’n edrych ymlaen yn arw at weld wynebau cwsmeriaid hen a newydd wrth i ni ail agor y siop wythnos yma!"
Cafodd Bys a Bawd ei sefydlu yn 1955 gan Arianwen Parry, ac mae’r fenter newydd yn ceisio adeiladu ar hanes hir siopau annibynnol Llanrwst.
Dywedodd Maer Llanrwst, y Cynghorydd Tref, Iola Gilbert: "Rydyn ni’n ffodus iawn o gael cigyddion annibynnol, siopau bwyd llwyddiannus, siopau nwyddau cartref hyfryd, siop flodau, tafarndai traddodiadol a llawer, llawer mwy yn parhau ar ein strydoedd yn Llanrwst.
"Y gobaith wrth ychwanegu Bys a Bawd Pawb yn ei ôl ar ei newydd wedd yw y bydd yn parhau i dderbyn cefnogaeth trigolion lleol i’n tref farchnad ac i ddenu cwsmeriaid o bell ac agos draw i fwynhau'r arlwy sydd gan Llanrwst i’w chynnig."
Yn ystod y gwaith adnewyddu, parhaodd y busnes i fasnachu o swyddfa Menter Iaith Conwy ar sgwâr y dref.
Mae’r siop bellach yn cynnig amrywiaeth o lyfrau, anrhegion, gemwaith, nwyddau i’r tŷ, teganau a chynnyrch Cymraeg a Chymreig.
Bydd y siop newydd ar agor i'r cyhoedd o 9.30 tan 17.00 o ddydd Mawrth i ddydd Gwener, ac o 9.00 tan 13.00 ar ddydd Sadwrn.
