Canslo llosgi cerflun y Dyn Gwyrdd eleni oherwydd y perygl o danau gwyllt
Ni fydd cerflun eiconig Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn cael ei losgi eleni oherwydd y perygl uchel o dân yn dilyn cyfnod hir o dywydd sych.
Daw’r penderfyniad wrth i’r ŵyl ddechrau croesawu’r ymwelwyr cyntaf i’w maes gwersylla cynnar fore Llun. Bydd prif ran yr ŵyl yn agor ddydd Iau.
Mae llosgi cerflun pren y Dyn Gwyrdd ar ddiwedd yr ŵyl yn draddodiad blynyddol.
Mae ymwelwyr fel arfer yn ysgrifennu eu dymuniadau a’u gobeithion cyn eu rhoi y tu mewn i’r cerflun, sydd wedyn yn cael ei roi ar dân.
Ond dywedodd y trefnwyr fod y tir a’r llystyfiant yn sych iawn eleni a bod hyd yn oed tân bach yn gallu lledaenu’n gyflym.
Maen nhw’n gweithio gyda’r gwasanaethau tân a thimau diogelwch Powys i geisio lleihau’r perygl.
Bydd digwyddiad arall yn cael ei gynnal ger cerflun y Dyn Gwyrdd ddydd Sul, a bydd y trefnwyr yn dal i gasglu dymuniadau pobl ar gyfer ffarwel arbennig.
Cyfyngiadau
Mae barbeciws tafladwy a siarcol, tanau gwersyll a stofiau sy’n cael eu gosod yn uniongyrchol ar y ddaear wedi’u gwahardd, meddai'r trefnwyr.
Bydd modd defnyddio stofiau nwy a barbeciws nwy sydd ar fyrddau neu goesau, ond mae’r trefnwyr wedi annog pobl i fod yn hynod ofalus.
Mae ysmygu a fepio mewn pebyll a bariau hefyd wedi’u gwahardd.
Bydd blychau ar gyfer bonion sigaréts ar gael drwy Cadwch Gymru’n Daclus, ynghyd â mwy o bwyntiau dŵr a mannau cysgodol.
Daw’r mesurau yn dilyn nifer o danau gwyllt ledled Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar 10 Awst fod tân ger Cronfa Ddŵr Llangynidr wedi llosgi ardal o tua 400 hectar.
Bydd Gŵyl y Dyn Gwyrdd, sydd wedi gwerthu allan, yn cael ei chynnal ym Mharc Glanwysg ger Crughywel tan ddydd Sul.
Mogwai, Four Tet, Wilco a Wolf Alice fydd y prif enwau eleni, gyda Charlotte Church, Cate Le Bon, Cat Power a The Beta Band hefyd ar y rhaglen.