Undeb seiclwyr yn ‘gynddeiriog’ dros ddiogelwch ras ar ôl marwolaeth Finlay Tarling
Mae corff sy’n cynrychioli seiclwyr proffesiynol wedi dweud ei fod yn “gynddeiriog” ar ôl marwolaeth Finlay Tarling mewn ras ym Mhortiwgal.
Bu’r seiclwr 19 oed o Ffos-y-ffin, ger Aberaeron, farw ddydd Gwener ar ôl gwrthdrawiad rhwng ei feic a cherbyd nad oedd yn rhan o ras Volta a Portugal.
Dywedodd Cyclistes Professionnels Associés (CPA): “Nid yw’n iawn bod bywyd athletwr ifanc yn dod i ben fel hyn.
“Rydym yn gynddeiriog nad yw’n bosib, hyd yn oed heddiw, atal damweiniau mor ddifrifol.”
Mae’r cyn-seiclwr proffesiynol o Ffrainc, Jérôme Pineau, hefyd wedi galw diogelwch y ras yn “drychinebus”.
Dywedodd Pineau ei bod yn “wyrth barhaus” nad oedd rhagor o ddigwyddiadau wedi bod yn ystod y ras, gan ychwanegu bod diffyg adnoddau yn effeithio ar ddiogelwch digwyddiadau seiclo.
Wrth ymateb ar ôl y gwrthdrawiad, dywedodd cyfarwyddwr y ras, Ezequiel Mosquera, ei bod yn anodd iawn sicrhau diogelwch ar hyd y llwybr cyfan.
“Mae’n anodd iawn rheoli ‘stadiwm’ sy’n ymestyn am 1,300km,” meddai, gan gyfeirio at lwybr cyfan y ras.
Ychwanegodd fod y trefnwyr wedi ceisio dilyn yr arferion gorau a chynyddu’r trefniadau diogelwch gymaint â phosib.
Manylion newydd
Roedd rhannau o’r ffordd yn cael eu cau dros dro wrth i’r ras fynd heibio.
Roedd y “car ysgubo” (broom wagon), sef y cerbyd oedd yn teithio yng nghefn y ras, yn nodi diwedd y rhan o’r ffordd oedd wedi ei chau.
Dywedodd yr GNR fod gyrrwr y cerbyd arall wedi bod yn aros ar ffordd ochr oedd yn ymuno â llwybr y ras wrth i’r peloton fynd heibio.
Nid oedd swyddog yno gan nad oedd y man wedi cael ei flaenoriaethu yn yr asesiad diogelwch.
Yn ôl yr GNR, fe ofynnodd y gyrrwr i bobl oedd gerllaw a oedd e'n cael symud ymlaen.
Yna fe aeth y cerbyd ar lwybr y ras cyn i’r car ysgubo fynd heibio.
Dywedodd yr GNR nad oedd y cerbyd ar ochr anghywir y ffordd. Roedd yn ei lôn ei hun, ond yn teithio i’r cyfeiriad arall i’r seiclwyr.
Dywedodd yr heddlu fod Finlay wedi cymryd y tro drwy’r lôn chwith, fel sy’n arferol i seiclwyr mewn ras, cyn y gwrthdrawiad.
Mae’r heddlu’n ymchwilio i ba arwyddion oedd yn y fan a’r lle ac a oedd unrhyw rai wedi cael eu symud.
Mae’r ymchwiliad yn parhau, ond nid yw’r heddlu’n disgwyl ar hyn o bryd i’r gyrrwr wynebu cyhuddiad troseddol.
Yn dilyn marwolaeth Finlay, fe wnaeth NSN Development Team dynnu allan o weddill y ras. Cafodd munud o dawelwch ei gynnal cyn y nawfed cymal ddydd Sadwrn.
Teyrnged
Ddydd Sul fe wnaeth tad Finlay Tarling roi teyrnged iddo.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol fore dydd Sul, dywedodd Michael Tarling fod y teulu'n profi "dyddiau anoddaf ein bywydau".
Dywedodd fod y gefnogaeth i'w deulu wedi'r farwolaeth wedi eu cynnal, gan gynnwys "negeseuon, e-byst, erthyglau a galwadau gan ein teulu, ffrindiau, y tîm, a’n cymunedau lleol a chwaraeon."
"Mae clywed faint o gariad ac edmygedd oedd gan bobl tuag at Fin wedi bod o gymorth mawr i ni," meddai.
"Ni allwn ddiolch digon i chi i gyd am y gefnogaeth rydym wedi ei gael. Dydyn ni ddim yn gwybod sut y byddwn yn symud ymlaen o hyn ymlaen, ond byddwn yn darganfod y ffordd gyda chefnogaeth ein teulu, ein ffrindiau a’n cymuned gyfan.
"Er na fydd ein calonnau sydd wedi eu torri byth yn gwella’n llwyr, roedd o nid yn unig yn fab ac yn frawd i ni, ond yn ffrind gorau hefyd.
"Byddwn yn gweld ei eisiau yn aruthrol - roedd yn berson tyner a chariadus, gyda synnwyr digrifwch sych ac unigryw."