Diwrnod Gwenyn Mêl y Byd: Cynhaeaf 2026 ‘yn un o’r goreuon erioed’

David Wainwright.png

Mae fferm wenyn ger Aberystwyth yn disgwyl cynhyrchu mwy na 100 tunnell o fêl eleni ar ôl “un o’r cynaeafau gorau” yn ei hanes.

Daw’r amcangyfrif wrth i Ddiwrnod Gwenyn Mêl y Byd gael ei nodi ddydd Sadwrn.

Mae’r diwrnod yn cael ei gynnal ar drydydd dydd Sadwrn ym mis Awst bob blwyddyn er mwyn dathlu gwenyn mêl, cydnabod gwaith gwenynwyr a thynnu sylw at bwysigrwydd peillio.

Image
Dawn a David Wainwright
Dawn a David Wainwright sy'n rhedeg y fferm fêl yn Llandre ger Aberystwyth

Yn ôl Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig, mae tua 75% o fathau o gnydau bwyd y byd yn dibynnu ar beillwyr i ryw raddau.

Ond roedd mynegai sy’n mesur dosbarthiad 393 o rywogaethau o wenyn gwyllt a phryfed hofran yn y DU 23% yn is yn 2024 nag yn 1980, yn ôl y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur.

Roedd 38% o’r rhywogaethau wedi mynd yn llai cyffredin yn ddaearyddol dros y cyfnod.

‘Un o’r goreuon erioed’

Mae gan Wainwright’s Bee Farm 2,200 o deuluoedd gwenyn mewn dros 120 o wenynfeydd ar ffermydd ledled Cymru a Lloegr.

Mae’r fferm hefyd yn dweud bod tua 60% o’r mêl Prydeinig sy’n cael ei werthu yn siopau’r stryd fawr yn y DU yn dod o'r cwmni sydd wedi'i leoli yn Llandre ger Aberystwyth.

Dywedodd Dawn Wainwright wrth Newyddion S4C fod y gwenyn wedi ymdopi’n dda â thywydd poeth a sych yr haf.

Image
David Wainwright
David Wainwright 

“Mae ein teuluoedd gwenyn wedi ymdopi’n dda yn ystod y tywydd sych rydyn ni wedi’i gael,” meddai.

“Maen nhw’n greaduriaid clyfar sydd wedi bodoli ers oes y deinosoriaid ac maen nhw’n gwybod sut i ymdopi â’r tywydd hwn yn llawer gwell na ni, fodau dynol.

“Rydyn ni’n ddiolchgar bod y gwenyn wedi cynhyrchu cnwd gwych o fêl eleni, un o’r goreuon rydyn ni erioed wedi’i gael.”

Mêl grug

Mae nifer o gychod gwenyn y fferm bellach wedi cael eu symud o’r iseldir i rostiroedd grug mynyddoedd y Berwyn.

Yn ôl y fferm, dim ond un flwyddyn o bob pum mlynedd sy’n cynhyrchu cnwd sylweddol o fêl grug oherwydd natur anwadal y tywydd ar y mynyddoedd.

Cafodd Mêl Grug Cymru statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig yn 2025; y mêl cyntaf yn y DU i gael y gydnabyddiaeth.

“Mae eleni’n edrych yn flwyddyn arbennig o dda ar gyfer cynhyrchu Mêl Grug Cymru,” meddai Dawn Wainwright.

Image
Mel Grug
Grug sy'n cael ei ddefnyddio i greu'r mêl arbennig 

“Mae wastod yn dipyn o gambl a fydd y grug yn cynhyrchu digon o neithdar i’r gwenyn allu cynhyrchu cnwd da.

“Roedd y llynedd yn wael iawn. Rydyn ni’n croesi ein bysedd.”

Heriau i wenynwyr

Mae ffigurau’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn dangos fod y DU wedi mewnforio 51,400 tunnell o fêl yn 2022, cynnydd o tua 25% ers 2016.

Daeth 68% o’r mêl a fewnforiwyd o Tsieina.

Pan ofynnwyd beth oedd yr her fwyaf sy’n wynebu gwenynwyr, dywedodd Dawn Wainwright mai “mêl rhad iawn a mêl ffug sy’n cael ei fewnforio” oedd y prif bryder.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog pobl i dyfu planhigion sy’n addas i beillwyr, osgoi defnyddio plaladdwyr, torri glaswellt yn llai aml a gadael ardaloedd gwyllt mewn gerddi a mannau cyhoeddus.

Mewn ymgais i hybu’r diwydiant mêl a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwenyn, bydd y fferm yn cynnal Gŵyl Mêl Haf ar dir y fferm, ddydd Sul.

Bydd ffermwyr, gwenynwyr ac arbenigwyr yn trafod arferion ffermio cadarnhaol a’u heffaith ar wenyn a bywyd gwyllt.

Bydd sesiynau blasu mêl, marchnad ffermwyr, bwyd lleol, cerddoriaeth fyw a gweithgareddau i blant hefyd yn rhan o’r digwyddiad.

Dywedodd Dawn Wainwright ei bod yn gobeithio y bydd yr ŵyl yn gyfle i ddathlu’r cynhaeaf ac i ddiolch i ffermwyr am helpu i greu cynefinoedd addas i wenyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.