Drama Gymraeg boblogaidd i gael ei pherfformio yn Efrog Newydd

Parti Priodas

Bydd drama Gymraeg boblogaidd yn cael ei pherfformio yn Efrog Newydd ym mis Medi. 

Wedi ei hysgrifennu gan Gruffudd Owen a'i chynhyrchu gan Theatr Cymru, fe fydd Parti Priodas yn ymddangos Off-Broadway yn Theatr Judith O. Rubin yn Efrog Newydd ar 5 Medi.

Cafodd y ddrama ei pherfformio yn wreiddiol yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 cyn taith i leoliadau ledled Cymru yn 2024.

Enillodd y ddrama Wobr Theatr y DU am Ragoriaeth mewn Teithio yn 2024.

Cyn y perfformiad yn Efrog Newydd, fe fydd y ddrama yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf yn yr Unol Daleithiau yn gynharach yn yr wythnos yng Ngŵyl Cymru Gogledd America.

Dyma fydd y perfformiad cwbl Gymraeg cyntaf erioed i fod yn brif berfformiad yr ŵyl, sy'n cael ei chynnal yn Springfield, Massachusetts eleni.

Mae'r ddrama yn archwilio tensiynau teuluol, newidiadau cymdeithasol yng nghefn gwlad a'r ymdeimlad o berthyn.

'Moment hanesyddol'

Dywedodd Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru a chyfarwyddwr Parti Priodas: "Mae mynd â Parti Priodas Off-Broadway yn foment hanesyddol i’n cwmni. Mae teithio drama arobryn Gruffudd Owen, sy'n ddarlun doniol a thwymgalon o fywyd cefn gwlad Cymru, o gaeau Pen Llŷn i ganol Dinas Efrog Newydd yn freuddwyd go iawn - gan brofi bod gan ein straeon lleol apêl eang.

"Un o nodau Theatr Cymru yw cysylltu Cymru â’r byd, ac yn dilyn ein perfformiad yng Ngŵyl Cymru Gogledd America, rydym yn gyffrous i ddathlu lleisiau cyfoes Cymru yn un o leoliadau theatr mwyaf eiconig y byd."

Ychwanegodd y dramodydd Gruffudd Owen:  “Yn 1928 mi ymfudodd fy nhaid, Solomon Owen i Efrog Newydd am gyfnod cyn i’r Dirwasgiad Mawr ei orfodi i hwylio’n ôl i Lŷn. Diolch byth iddo fo ddod adra achos tasa fo heb, fyddai Parti Priodas ddim yn bodoli a fyddai Theatr Cymru ddim yn gallu danfon drama ei ŵyr bach gwirion i ddinas enwoca’r byd am un parti olaf!

“Cychwynnodd taith Parti Priodas yn 2019 fel dau air wedi ei sgriblo mewn llyfr nodiadau yn ystod cwrs Dramodwyr Newydd Theatr Cymru. Faswn i fyth wedi medru dychmygu bryd hynny y byddai hanes ‘priodas gymysg rhwng mab ffarm o Gymro a Saesnes o Lŷn’ yn cael ei rhannu ar lwyfan yn Efrog Newydd rhyw ddydd. Mae hi wedi bod yn goblyn o daith."

Llun: Theatr Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.