Y tywydd poeth 'yn effeithio ar werthiant' y Big Issue yng Nghymru

Big Issue. Llun: Reuters / Lee Smith

Mae cyhoeddwyr cylchgrawn y Big Issue wedi dweud fod ffigyrau newydd yn dangos fod sawl ton wres dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn effeithio ar werthiant y cylchgrawn.

Mae gwerthiant y cylchgrawn wedi gostwng 20% ar gyfartaledd dros y cyfnod, ac roedd Cymru ymysg y llefydd a gafodd eu heffeithio fwyaf, gyda 33% yn llai o werthiannau, gyda Gorllewin Canolbarth Lloegr yn profi 34% yn llai. 

Mae gwerthwyr yn wynebu'r her o gael llai o bobl ar y stryd fawr a methu â gwerthu yn ystod oriau brig y gwres oherwydd pryderon am iechyd a diogelwch. 

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr gwasanaeth cymorth Big Issue i werthwyr, Catherine Parsons, eu bod yn colli incwm hanfodol oherwydd y tonnau gwres.

"Ar gyfer y mwyafrif ohonom ni, mae gwres eithafol yn anghyfleustra. Ar gyfer gwerthwyr y Big Issue, mae'n golygu ennill swm sylweddol is o arian a gwneud penderfyniadau anodd am rent, bwyd a hanfodion eraill," meddai,

"Mae ein timau yn gweithio'n galed i gefnogi gwerthwyr i werthu yn ystod y gwres, gan wirio eu lles a dosbarthu eli haul, capiau a photeli dŵr.

"Ond yn y tymereddau mwyaf eithafol, nid yw'n ddiogel i werthwyr fod allan yn gwerthu, a phan mae'r gwres yn eu gorfodi i gwtogi eu horiau gwaith, mae'r effaith ariannol i'w deimlo'n syth."

Llun: Reuters / Lee Smith

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.