'Cynnydd sylweddol' yn y nifer o bobl sy'n chwilio am dai â systemau oeri
Mae'r chwilio am dai ar y farchnad sydd â system oeri neu aerdymheru ('air conditioning') wedi mwy na dyblu dros gyfnod y gwanwyn a'r haf o'i gymharu â'r llynedd.
Dywedodd cwmni gwerthu tai Rightmove eu bod wedi gweld cynnydd o 104% mewn ymholiadau chwilio ar eu gwefan rhwng 1 Mai a 31 Gorffennaf o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2025.
Dywedodd Colleen Babcock, arbenigwr eiddo yn Rightmove: "Mae tonnau gwres yr haf yma yn ymddangos i ddylanwadu ar sut y mae pobl yn meddwl am eu cartrefi."
Dyma'r bumed ton wres i daro'r DU dros y misoedd diwethaf.
Mae'r tywydd eithafol dros yr haf eleni wedi cynnwys dwy don wres sydd wedi torri record ym mis Mai a Mehefin a arweiniodd at fwy na 2,800 o farwolaethau ychwanegol.
Cafodd dwy don wres arall eu cofnodi ym mis Gorffennaf, sef y mis sychaf ar gofnod yng Nghymru a Lloegr, gan arwain at nifer o danau gwyllt ar draws y wlad.
Ychwanegodd Ian Harris, llywydd NAEA (Cymdeithas Genedlaethol Gwerthwyr Eiddo) Propertymark: "Er bod aerdymheru yn dod yn nodwedd fwy amlwg ar restrau dymuniadau prynwyr, mae gwerthwyr eiddo yn gweld newid ehangach yn yr hyn y mae pobl ei eisiau o gartref: mae cysur a bywiogrwydd yn cael eu hystyried fwyfwy ochr yn ochr â ffactorau traddodiadol fel lleoliad, gofod a phris.
"Mae hwn yn newid pwysig yn ymddygiad prynwyr. Wrth i hafau poethach ddod yn fwy arferol, mae gallu cartref i aros yn gyfforddus yn y tywydd poeth yn debygol o fod yn ystyriaeth bwysig pan y mae pobl yn ymweld â chartrefi yn hytrach na rhywbeth y maen nhw'n feddwl amdano dim ond ar ôl iddyn nhw symud i fewn."
Ddiwedd mis Gorffennaf, fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ymestyn statws sychder i Gymru gyfan wedi cyfnod hir o dywydd poeth a thanau gwyllt.
Daeth y cyhoeddiad wedi i CNC osod Gogledd Gwynedd, Ynys Môn, De Gwynedd, Afon Dyfrdwy, Clwyd a'r Hafren Uchaf dan statws sychder ar 23 Gorffennaf.
Dywedodd CNC fod ystadegau'n dangos fod Cymru wedi derbyn dim ond 8% o gyfartaledd y glawiad hirdymor ym mis Gorffennaf.