Pêl-droed: Dau o glybiau ar frig y Cymru Premier JD yn mynd benben â'i gilydd
Bydd dau o'r tri thîm uchaf yn wynebu ei gilydd ddydd Sadwrn wrth i Met Caerdydd deithio i'r Barri.
Yn y gêm hwyr nos Sadwrn fe fydd Caernarfon yn wynebu Bae Colwyn, gyda'r Cofis yn chwilio am eu buddugoliaeth gartref gyntaf y tymor hwn.
Y Barri v Met Caerdydd | Dydd Sadwrn – 12:30
Bydd dau o’r ceffylau blaen yn cyfarfod ar Barc Jenner brynhawn Sadwrn gyda’r ddau glwb yn gobeithio parhau â’u record berffaith.
Mae’r Barri wedi dangos dygnwch i ennill eu dwy gêm agoriadol gyda goliau hwyr i gipio’r triphwynt (Barr 2-1 Cam, Ffl 2-3 Barr).
Dyw Met Caerdydd heb orfod chwysu cymaint yn eu buddugoliaethau dros newydd-ddyfodiaid y gogledd (Met 6-1 Tffn, Air 0-2 Met), gyda’r ymosodwr Jasper Payne yn serennu gan sgorio pedair gôl.
Met Caerdydd yw prif sgorwyr y gynghrair wedi dwy gêm (8), ond mae’r Barri ar rediad o bum gêm heb golli yn erbyn y myfyrwyr (ennill 2, cyfartal 3). ͏
Caernarfon v Bae Colwyn | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw arlein)
Mae dechrau caled Caernarfon yn parhau wrth iddyn nhw baratoi i wynebu clwb arall a orffennodd yn y Chwech Uchaf y tymor diwethaf.
Ar ôl colli’n erbyn Pen-y-bont y penwythnos diwethaf bydd y Cofis yn awyddus i sicrhau eu buddugoliaeth gartref gyntaf y tymor hwn.
Yn groes i Gaernarfon, dyw Bae Colwyn m’ond wedi wynebu newydd-ddyfodiaid hyd yma, a bydd y Gwylanod yn siomedig o fod wedi gollwng dau bwynt yn Rhydaman nos Wener (Aman 2-2 Bae), ac hynny ar ôl bod dwy i ddim ar y blaen wedi 23 munud.
Mae Caernarfon wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn Bae Colwyn yn cynnwys buddugoliaeth o 4-1 yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru JD.