Pêl-droed: Dau o glybiau newydd y Novira Cymru Premier yn cyfarfod am y tro cyntaf erioed
Met Caerdydd, Llandudno a’r Barri yw’r tri chlwb sydd â record 100% wedi eu dwy gêm agoriadol, tra bod yna bedwar tîm yn parhau i aros am eu pwyntiau cyntaf.
Dau o’r clybiau rheiny ar waelod y gynghrair yw Hwlffordd a Trefelin – dau glwb sydd wedi methu a sgorio yn eu dwy agoriadol, tra mae’r Seintiau Newydd yw’r unig dîm sydd eto i ildio gôl gynghrair.
Airbus UK Brychdyn v Rhydaman | Nos Wener – 19:45
Mi fydd Airbus UK a Rhydaman yn cyfarfod am y tro cyntaf erioed nos Wener mewn gêm gyffrous rhwng dau o’r newydd ddyfodiaid.
Fe gafodd Airbus ddechrau gwych i’r tymor gyda buddugoliaeth oddi cartref yn Hwlffordd, ond yna’n colli gartref o 0-2 yn erbyn Met Caerdydd y penwythnos diwethaf.
Brwydrodd Rhydaman yn ddewr i sicrhau gêm gyfartal gartref yn erbyn Bae Colwyn nos Wener gan gipio eu pwynt cyntaf erioed yn yr uwch gynghrair (Aman 2-2 Bae).
Jonathan Evans oedd y seren i Rhydaman, yn sgorio unwaith ac ennill cic o’r smotyn i’w glwb newydd – a dim ond Jasper Payne (6) sydd wedi cyfrannu at fwy o goliau na Evans hyd yma’r tymor hwn (3).
Cambrian v Y Fflint | Nos Wener – 19:45
Dyw’r Fflint heb gael cychwyn cryf i’r ymgyrch, yn colli eu dwy gêm hyd yma o 3-2 ar ôl bod ar y blaen yn y ddwy gêm cyn ildio goliau hwyr (Lldo 3-2 Ffl, Ffl 2-3 Barr).
Ar ôl colli’n erbyn Y Barri ar y penwythnos agoriadol fe hawliodd Cambrian eu pwynt cyntaf yn yr uwch gynghrair drwy sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Llansawel nos Wener.
Sgoriodd Liam Eason o’r smotyn i Cambrian i’w gwneud hi’n ddwy gôl mewn dwy gêm iarwr y Rhondda.
Dyw’r clybiau erioed wedi cyfarfod o’r blaen a bydd y ddau dîm yn benderfynol o hawlio eu buddugoliaeth gyntaf y tymor hwn.
Cei Connah v Trefelin | Nos Wener – 19:45
Wedi’r siom o golli gartref yn erbyn Caernarfon, fe wnaeth Cei Connah ymateb yn syth drwy guro Treffynnon yn narbi Sir y Fflint (Tffn 1-3 Cei).
Ar ôl gorffen yn ail y tymor diwethaf, bydd tîm John Disney yn anelu am yr uchelfannau eto er mwyn gwthio’r Seintiau Newydd am y bencampwriaeth.
Mae hi wedi bod yn ddechrau anodd i’r tymor i’r newydd-ddyfodiaid, Trefelin sydd eto i sgorio gôl ar ôl colli 2-0 ym Mae Colwyn cyn colli 0-4 yn erbyn Llandudno.
Mae’r clybiau yma wedi cyfarfod ddwywaith yn y pum mlynedd diwethaf yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru, gyda’r Nomadiaid yn ennill y ddwy ornest ar Barc Ynys.
Hwlffordd v Pen-y-bont | Nos Wener – 19:45
Mae Hwlffordd wedi cael dechrau araf i’r tymor ac heb sgorio gôl yn eu dwy golled hyd yma (Hwl 0-1 Air, YSN 2-0 Hwl).
Ond bydd Pen-y-bont yn fwy na bodlon gyda’u canlyniadau agoriadol, yn sicrhau pwynt yn erbyn y pencampwyr cyn trechu Caernarfon (Cfon 1-2 Pen).
Hon fydd yr ornest gyntaf rhwng y timau ers rownd derfynol y gemau ail gyfle ym mis Mai, pan enillodd Pen-y-bont o 2-0 yn Stadiwm Dragonbet gan hawlio eu lle’n Ewrop.
Wrth edrych ar y record benben mae’r fantais seicolegol yn sicr gan Pen-y-bont am eu bod ar rediad o 10 gêm heb golli yn erbyn Hwlffordd (ennill 8, cyfartal 2), a dyw’r Adar Gleision m’ond wedi sgorio ddwywaith yn ystod y rhediad hwnnw.
Llandudno v Treffynnon | Nos Wener – 19:45
Yn dilyn eu dyrchafiad dros yr haf mae Llandudno wedi cael dechrau llwyddiannus i’r tymor ar ôl ennill eu dwy gêm agoriadol (Lldo 3-2 Ffl, Tfl 0-4 Lldo).
Mae’n stori dra gwahanol yn Nhreffynnon gan i’r clwb golli eu dwy gêm hyd yma (Met 6-1 Tffn, Tffn 1-3 Cei).
Does neb wedi ildio mwy o goliau na Treffynnon (9), tra bod Llandudno ymysg y prif sgorwyr (7).
Dros y tymhorau diwethaf mae’r clybiau wedi cyfarfod ar sawl achlysur yng Nghynghrair y Gogledd, a Llandudno gafodd y gorau o bethau’r tymor diwethaf wrth i Mark Cadwallader daro deirgwaith yn erbyn tîm John Haseldin (Tffn 1-1 Lldo, Lldo 2-1 Tffn).
Y Seintiau Newydd v Llansawel | Nos Wener – 19:45
Mae’r Seintiau a Llansawel yn hafal ar bwyntiau ar ôl ennill un a chael un gêm gyfartal hyd yma.
Y Seintiau Newydd yw’r unig glwb sydd heb ildio gôl yn eu dwy gêm agoriadol, wrth i Nathan Shepperd lygadu’r Faneg Aur am yr ail flwyddyn yn olynol.
Yn eu dwy gêm agoriadol mae Llansawel wedi wynebu dau o’r newydd-ddyfodiaid(Rhydaman a Cambrian), ac felly bydd hon yn her wahanol i dîm Andy Dyer.
Ond wedi dweud hynny, mae gan Llansawel record gryf yn erbyn y Seintiau gan i’r Cochion ennill dwy o’u pedair gornest yn erbyn y pencampwyr ers eu dyrchafiad yn 2024.