Prinder bwyd yn y tymor hir yn 'anorfod' yn sgil sychder medd amaethwyr

Prinder bwyd yn y tymor hir yn 'anorfod' yn sgil sychder medd amaethwyr

Mae dirprwy lywydd un undeb amaeth yng Nghymru wedi rhybuddio fod prinder cynnyrch bwyd yn 'anorfod' yn sgil y sychder dros y misoedd diwethaf. 

Fe wnaeth Cymru gofnodi'r mis Gorffennaf sychaf ar gofnod eleni, tra bod y tymheredd cyfartalog wedi cyfateb i’r record a gofnodwyd yn 1983 a 2006.

Mae tanau gwyllt wedi’u gweld ledled y wlad hefyd, gyda gwasanaethau tân yn parhau i frwydro yn erbyn sawl un ar y funud.

Yn ôl gwaith dadansoddi newydd, mae awgrym bod y gwanwyn a’r haf poeth a sych wedi lleihau cynhaeaf grawnfwydydd a hadau olew o 2.5 miliwn o dunelli.

Byddai hynny’n costio tua £390 miliwn i ffermwyr y Deyrnas Unedig.

Mae Paul Williams yn Ddirprwy Lywydd NFU Cymru ac yn ffermio yn Nyffryn Conwy. 

Wrth siarad ar Faes Sioe Môn ddydd Mercher, fe ddywedodd wrth Newyddion S4C: "Adre, ‘dan ni’n digwydd ffarmio yn yr ucheldir yn un o ardaloedd gwlypa Prydain yn y gaeaf wrth gwrs, ag eto dwi’n cario dŵr i’r gwartheg ers pump wythnos a rŵan bellach yn cario dŵr i’r tŷ ers pythefnos.

"Mae o’n sicr yn cael effaith arna ni yn y topie ‘cw, a mae o’n cael effaith enbyd ar lawer iawn o ffermydd sydd llawer iawn is yn y dyffryn, Dyffryn Clwyd, a mewn mannau eraill yng Nghymru."

Image
Paul Williams
 Paul Williams, Dirprwy Lywydd NFU Cymru

Rhybuddiodd Mr Williams y gallai'r sychder arwain at brinder cynnyrch bwyd. 

"Mae o'n anorfod fydd 'na brinder, 'dan ni'n gwybod er enghraifft bod cynhyrchiad llaeth i lawr yn sylweddol, mae cynhyrchiant wyau, ieir, llawer iawn llai a does 'na ddim dwywaith, mae o'n mynd i gael effaith ar gynhyrchiant grawn," meddai.

"Dim gymaint rŵan ond yn sicr ma’ hwn yn mynd i gael effaith hirdymor at flwyddyn nesa’ a blynyddoedd i ddod oherwydd ma’ be’ ‘dan ni’n gynhyrchu heddiw ‘ma wrth gwrs yn debygol o fod ar y silffoedd mewn dau, dri neu bedwar mis neu bellach na hynny.

"Felly does ‘na ddim dwy waith mae’n mynd i gael effaith ar gynnyrch ac allbwn amaeth."

Mae Gareth Jones yn ffermwr godro ar Ynys Môn, ac fe ddywedodd wrth Newyddion S4C mai ei flaenoriaeth ef ar hyn o bryd ydy sicrhau fod yna fwyd ar gael i'w wartheg.

"'Dan ni'n lwcus yn ein sefyllfa ni bo' ni 'di gallu gwerthu rhywfaint o wartheg tew i dynnu pressure oddi ar y borfa ond hyn a hyn o dir ma' hynny yn rhyddhau," meddai. 

"Mae o’n codi pryder a ma’ rywun yn sbio ar y forecast bob dydd yn meddwl ‘W, ma’r glaw ma’n dŵad a wedyn ma’n mynd yn  bellach bob dydd."

Image
GARETH jones
Gareth Jones

Ychwanegodd Mr Jones y bydd y gwir effaith i'w deimlo yn y gaeaf.

"‘Dan ni’n meddwl mai problem rŵan ‘dio, ma’ siwr mai problem i’r gaeaf  fydd o fel fydd y storfa seilej gan bobl yn mynd yn llai, bwyd i’r gaeaf ‘di hwnnw i fod ond ‘dan ni’n byta fewn idda fo rŵan," meddai.

"Dydi o ddim yn fater o jystO nai ffonio’r dyn gwerthu gwair a gofyn am lwyth o wair’ ‘chos di’r llwythi gwair ‘na ddim am fod yna - ma’ ‘na ffermydd yn bob rhan o’r wlad isio porfa ychwanegol wedyn ma hyn yn mynd i fod yn broblem hirdymor iawn swn i’n ddeud."

Addasu arferion

Mae angen i ffermwyr addasu eu harferion wrth fynd i'r afael ag effeithiau sychder yn ôl Mr Jones. 

"Ma’ lot o ffarmwrs ‘di bod bach yn ddrwgdybus o ydi newid hinsawdd yn beth sy’n digwydd neu beidio ond dwi‘n meddwl ma’ raid i ni gyfadda ma’ raid i ni sbio go iawn ar y blynyddoedd dwytha’ ‘ma, a sylwi ma’r tymhorau ‘ma’n  mynd yn sychach a ma’ raid i ni neud rwbath."

Ychwanegodd Paul Williams: "Be' ma'r arbenigwyr yn ddeud wrtha ni ydi fydd rhaid i ni ddod i arfer fwy efo'r math yma o dywydd.

"Ma’ rhaid i ni fel amaeth nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y byd fod yn barod i addasu i hyn, mi fedrwn ni addasu mewn llawer iawn o feysydd ond er mwyn i ni allu addasu, ma’ rhaid i ni gael y  gallu i neud. 

"Ma’ ‘na lawer iawn o bethe ma’ raid i ni edrych fewn i hyn, lot o bethe fedrwn ni neud o fewn y diwydiant, ond ma’ gen i ofn bo’ ‘na lot fawr o bethe ma’ rhaid i ni gael llywodraethau yma yng Nghymru ac wrth gwrs ym Mhrydain Fawr  i ail-edrych ar hwn i strwythuro fo fel fedrwn ni neud hyn yn llawer rhwyddach."

Image
Dai Miles
Dai Miles, Dirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru

Fe ddywedodd Dai Miles, Dirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, fod angen i ffermwyr gael eu dysgu am y ffyrdd i fynd i'r afael â sychder.

"Ni'n gorfod bwydo gwartheg fel pe tai'n gaeaf, wrth gwrs, does dim byd ar y caeau iddyn nhw fwyta felly dechre bwydo silwair yn barod a ma' rhai wedi bod wrthi ers dechre Gorffennaf," meddai.

"Ma’ ‘na le i gael cefnogaeth gan y Llywodraeth yn enwedig yn y gwaith ymchwil ac unwaith chi ‘di gwneud y gwaith ymchwil, addasu hwnna i roi ar y ffermydd ac i ddysgu ffermydd i neud y pethe Newydd.” 

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod y pwysau ar ffermwyr a thyfwyr yn ystod yr amodau tywydd sych hir hyn, gan gynnwys effeithiau ar dda byw, cnydau, a busnesau fferm. 

“Mae'r llywodraeth newydd hon yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn uniongyrchol. Rydym wedi gwneud gweithredu ar yr hinsawdd a natur yn gyfrifoldeb ar lefel y Cabinet sy'n ymestyn ar draws pob portffolio, gan adlewyrchu maint yr her a'r camau sydd eu hangen."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.