Caerdydd: Heddwas yn yr ysbyty ar ôl cael ei daro gan feic trydanol

12/08/2026
Amroth Road, Caerdydd

Cafodd swyddog heddlu ei gludo i’r ysbyty ar ôl cael ei daro gan feic trydanol yng Nghaerdydd nos Fawrth.

Fe gafodd Heddlu De Cymru eu galw i Ffordd Amroth yn Nhrelái toc wedi 20:30 yn dilyn adroddiad o wrthdrawiad rhwng cerddwr a beic trydanol.

Swyddog heddlu ar ddyletswydd oedd y cerddwr.

Roedd y swyddog, oedd yn gwisgo dillad plaen, yn yr ardal fel rhan o ymgyrch yn ymateb i bryderon y gymuned am ddefnydd anghyfreithlon a gwrth-gymdeithasol o feiciau trydanol pwerus, yn ôl y llu.

Cafodd y swyddog ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ond ni ddioddefodd unrhyw anafiadau difrifol.

Fe gafodd dyn 25 oed o’r ardal ei arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus, gyrru heb drwydded a bod â chanabis yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi.

Cafodd sawl eitem eu meddiannu gan swyddogion fel rhan o’r ymchwiliad, gan gynnwys bagiau o ganabis, £700 mewn arian parod a beic trydanol Sur-Ron.

Mae’r dyn yn parhau yn y ddalfa tra bod ymchwiliadau’n parhau.

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.