Dyn 102 oed mewn cyflwr difrifol ar ôl ymosodiad honedig mewn tafarn

12/08/2026
Crow's Nest Cwmbrân

Mae dyn 102 oed mewn cyflwr difrifol yn dilyn ymosodiad honedig mewn tafarn yng Nghwmbrân.

Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion wedi adroddiadau o ymosodiad yn nhafarn The Crow’s Nest am tua 22.25 nos Sadwrn 1 Awst.

Cafodd swyddogion ac ambiwlans eu galw i’r dafarn, gyda’r dyn 102 oed yn cael ei dywys i’r ysbyty am driniaeth. Mae’n parhau mewn cyflwr difrifol.

Mae dyn 56 oed o Lanelli wedi’i arestio ar amheuaeth o ymosodiad adran 20 ac wedi’i ryddhau wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.

Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un a oedd yn y tafarn rhwng 22.00 a 23.00 ar nos Sadwrn 1 Awst i gysylltu â nhw, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2600249432.

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.