Cynnal cwestau i farwolaethau dau ddyn aeth ar goll o draeth ger Pwllheli
Mae cwestau i farwolaethau dau ddyn aeth ar goll o draeth ger Pwllheli ym mis Gorffennaf wedi eu hagor.
Roedd Connor James Parfitt, 24 oed, a Simon Anthony Wilson, 35 oed, wedi eu gweld ddiwethaf wrth ymyl gwersyll Hafan Y Môr yn y dref am 18:30 ar nos Fawrth, 21 Gorffennaf.
Roedd y ddau wedi eu gweld gyda chaiacs aer cyn iddynt ddiflannu.
Wrth agor y cwest yng Nghaernarfon fore dydd Mercher, dywedodd Sarah Riley, crwner cynorthwyol Gogledd Orllewin Cymru fod Connor Parfitt yn dod o Heol Dudley yn Blackpool ac fe gafodd ei eni ar 22 Hydref 2001.
Glanhawr oedd wrth ei waith.
Roedd Simon Wilson yn byw yn 124 Sea View, Hafan y Môr, Pwllheli, ac fe gafodd ei eni ar 3 Rhagfyr 1990 yn Solihull, canolbarth Lloegr.
Roedd yntau hefyd yn lanhawr.
"Yr amgylchiadau cychwynnol sydd wedi eu hadrodd i mi yw bod y ddau ddyn wedi eu cofnodi ar goll ar 23 Gorffennaf gan nad oeddynt wedi cael eu gweld ers 21 Gorffennaf" meddai'r crwner.
"Roedd y ddau wedi mynd i mewn i'r môr am tua 19:00. Roedd y ddau ar gaiacs ac nid oedd neb wedi eu gweld ers hynny."
Cafwyd hyd i Connor Parfitt ar draeth Morfa Bychan ger Aberystwyth, Ceredigion, ar 26 Gorffennaf, ac fe gafwyd hyd i gorff Simon Wilson ar draeth Llwyngwril, Gwynedd, ar 28 Gorffennaf.
Cafodd marwolaeth Mr Parfitt ei chofnodi am 13:00 ar y diwrnod pan gafodd ei ddarganfod, gyda pharafeddyg yn cadarnhau ei farwolaeth.
Cafodd ei adnabod yn ffurfiol gan y Ditectif Arolygydd Gareth Jones o Heddlu Dyfed Powys drwy luniau ohono a'i datŵs.
Fe gafodd marwolaeth Mr Wilson ei chadarnhau ar 28 Gorffennaf gan y parafeddyg Adam Hills am 19:37, ac fe gafodd ei adnabod yn ffurfiol gan y Sarjant Arwyn Jones.
Ychwanegodd y crwner fod archwiliad post mortem wedi ei drefnu, ac fe gafodd ei gynnal yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, ar 6 Awst.
Fe gymerwyd samplau o waed ac wrin gan y ddau ddyn ac mae'r crwner yn aros am ganlyniadau'r profion hynny.
Ni chafodd achos eu marwolaethau eu cyhoeddi yn y cwestau.
Cafodd y cwestau eu gohirio er mwyn i'r awdurdodau gwblhau eu hymchwiliadau.
Llun: Simon Wilson (chwith) a Connor Parfit (dde)
