Cais i roi digon o le i ddolffiniaid wedi digwyddiad yn harbwr Ceinewydd

Dolffin

Mae padlfyrddwyr, caiacwyr, nofwyr a defnyddwyr eraill y dŵr wedi cael eu hatgoffa i roi digon o le i ddolffiniaid ar ôl i bobl fynd yn rhy agos at fam ddolffin a'i chyw yn harbwr Ceinewydd, Ceredigion, yn ddiweddar.

Mae Bae Ceredigion yn gartref i un o boblogaethau pwysicaf y DU o ddolffiniaid trwyn potel a bob blwyddyn mae miloedd o drigolion ac ymwelwyr yn mwynhau gweld y creaduriaid.

Ond mae pryderon wedi codi ar ôl adroddiadau bod unigolion wedi agosáu at fam ddolffin a'i chyw a’u hamgylchynu yn harbwr Ceinewydd. 

Mae mynd yn rhy agos yn medru achosi straen i'r dolffiniaid a’u hatal rhag gorffwys, bwydo, a gofalu am gywion ifanc meddai datganiad gan Awdurdod Harbyrau Ceredigion.

Mae dolffiniaid yn cael eu gwarchod o dan ddeddfwriaeth bywyd gwyllt ac mae'n drosedd tarfu arnynt yn fwriadol.

Dywedodd Melanie Heath, Swyddog Ardal Forol Warchodedig Bae Ceredigion: “Rydym yn hynod ffodus o gael dolffiniaid yn ymweld â Cheredigion yn rheolaidd ac yn byw yma, ac mae cael cipolwg arnyn nhw yn dod â gwefr i bobl sy'n mwynhau ein harfordir. 

"Er ein bod yn deall y cyffro sy'n dod gyda chyfarfyddiadau o'r fath, mae hon yn sefyllfa beryglus. Mae dolffiniaid yn anifeiliaid mawr pwerus, hyd at bedwar metr o hyd, ac ar frig y gadwyn fwyd yn eu cynefin.

"Mae mam ddolffin gyda’i llo yn arbennig o fregus a gall ymddwyn yn ymosodol i amddiffyn ei llo. Bu achosion ledled y DU o ddolffiniaid trwyn potel yn ymosod ar bobol sy'n rhy agos a hynny drwy dopi, chwipio’r cynffon neu geisio dal person o dan y dŵr. 

"Er mwyn cadw pobl a dolffiniaid yn ddiogel, mae angen i bawb roi lle iddyn nhw a chadw o leiaf 100 metr, sef hyd cae pêl-droed, i ffwrdd."

Mae Awdurdod Harbyrau Ceredigion wedi annog holl ddefnyddwyr y dŵr i ddilyn y Côd Morol "sy'n hyrwyddo ymddygiad diogel a chyfrifol o amgylch bywyd gwyllt y môr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.