Nofwraig yn ceisio bod y person cyntaf i nofio o amgylch Ynys Môn yn ddi-dor

Sue Haines

Mae nofwraig pellter hir wedi dechrau ymgais i fod y person cyntaf i nofio o amgylch Ynys Môn mewn un ymgais ddi-dor.

Dechreuodd Sue Haines yr ymgais yn y môr oddi ar Borth Swtan am 04.30 fore Mercher.

Mae’r nofwraig 54 oed yn dod o Huyton ger Lerpwl.

Mae hi’n bwriadu dychwelyd i’r un man ar ôl nofio tua 70 milltir o amgylch yr ynys.

Os bydd yn llwyddo, mae Ms Haines yn dweud mai hi fydd y person cyntaf i gwblhau’r daith yn ddi-dor ac mewn un diwrnod.

Mae eraill wedi cwblhau’r daith fesul cam dros bedwar diwrnod.

Mae Ms Haines yn cael ei chefnogi gan griw o gychod yn ystod yr ymgais.

“Mae gen i dîm gwych y tu ôl i mi a bydd Anglesey Fishing & Boat Trips yn fy nghefnogi ar y cwch Grey Fox,” meddai ar ei thudalen codi arian.

Mae wedi bod yn hyfforddi ar gyfer yr ymgais ers dwy flynedd.

Yn rhan o’i pharatoadau, cwblhaodd nofiad hyfforddi a barodd wyth awr yng Nghanolfan Chwaraeon Dŵr Lerpwl ym mis Gorffennaf.

Hon yw ei hail ymgais i gwblhau’r her, ar ôl i’r cynllun y llynedd gael ei ganslo oherwydd gwyntoedd o hyd at 45mya.

Mae wedi bod yn nofio pellteroedd hir mewn dŵr agored ers 17 mlynedd.

Yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi cwblhau nofiadau yn llynnoedd Coniston, Windermere ac Ullswater, yn ogystal â nofio ar draws y Sianel ac o amgylch Jersey.

Dechrau nofio er cof am ei mam

Dechreuodd Ms Haines nofio mewn dŵr agored ar ôl marwolaeth ei mam, Margaret, o ganser yr ofari tua 17 mlynedd yn ôl.

Roedd staff Marie Curie wedi gofalu am Margaret yn ystod wythnos olaf ei bywyd.

Er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl, cwblhaodd Ms Haines y Great North Swim, nofiad milltir yn Windermere, i godi arian i’r elusen.

Dyna oedd ei nofiad mawr cyntaf mewn dŵr agored. Cyn hynny, dim ond mewn pwll nofio roedd hi wedi nofio.

Ychydig dros wythnos cyn yr ymgais ym Môn, dywedodd ei bod yn teimlo’n emosiynol, yn flinedig ac wedi ei llethu wrth nodi pen-blwydd marwolaeth ei mam.

Codi dros £5,700

Mae’r ymgais yn codi arian i Sefydliad Owen McVeigh, elusen sy’n helpu plant sydd â chanser a’u teuluoedd yn ardal Glannau Mersi.

Cafodd yr elusen ei sefydlu er cof am Owen McVeigh, a fu farw’n 11 oed yn fuan ar ôl cael diagnosis o lewcemia.

Mae’n trefnu profiadau arbennig ac yn creu atgofion i blant a’u teuluoedd, yn ogystal â chynnig gwyliau am ddim yn Peacock Lodge.

“Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn cefnogi’r elusen rwyf wedi ei dewis a minnau ar hyd y ffordd,” meddai Ms Haines.

Roedd cyfanswm y rhoddion wedi cyrraedd dros £5,300 cyn iddi gychwyn, gyda mwy na 200 o bobl wedi cyfrannu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.