Anhrefn Pontnewynydd: Trais 'rhwng clybiau beic modur Hells Angels a'r Vikings'

Marwolaeth Bontnewydd

Mae'r heddlu sydd yn gweithio ar ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn anhrefn yn ardal Pont-y-pŵl wedi cyhoeddi diweddariad.

Dridiau yn ôl cyhoeddodd Heddlu Gwent fod dyn 56 oed o'r enw Anthony “Tony” Jones o Aberhonddu wedi marw o ganlyniad i'r anhrefn honedig ym mhentref Pontnewynydd, a'u bod yn cynnal ymchwiliad i'w lofruddiaeth.

Mewn diweddariad bnawn dydd Mawrth, cyhoeddodd swyddogion eu bod yn credu fod y trais wedi bod rhwng aelodau o ddau glwb beiciau modur 'Outlaw' - sef clybiau'r Vikings a'r Hells Angels.

Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio Laura Bartley o Heddlu Gwent: "Rydym yn parhau i fod yng nghyfnod cynnar yr ymchwiliad llofruddiaeth cymhleth a chyflym hwn.

"Mae ein hymchwiliad yn mynd rhagddo'n gyflym ac mae nifer o arestiadau wedi'u gwneud. 

"Mae ditectifs yn gweithio i sefydlu'r amgylchiadau llawn sy'n ymwneud â digwyddiad dydd Iau, gan gynnwys gweithredoedd a symudiadau'r rhai a oedd yn gysylltiedig cyn, yn ystod ac ar ôl yr anhrefn.

Image
Anthony Jones
Bu farw Anthony “Tony” Jones o Aberhonddu o ganlyniad i'r anhrefn honedig ym mhentref Pontnewynydd.

"Ar y cam hwn o'n hymholiadau, credwn fod yr anhrefn treisgar yn cynnwys aelodau o ddau Glwb Beiciau Modur Outlaw cystadleuol, y Vikings a'r Hells Angels. 

"Mae sefydlu graddfa cyfranogiad y rhai sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad yn parhau i fod yn ffocws allweddol i'r ymchwiliad."

Dywedodd ei bod yn deall y bydd y digwyddiad yn achosi "pryder sylweddol yn y gymuned," ond bod swyddogion yn gweithio'n ddiflino i geisio dod o hyd i atebion.

"Mae ein meddyliau gyda theulu'r dioddefwr, sy'n parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig."

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhywun sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2600255536.

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.