Penderfyniad i gau pwll nofio yn Sir Gâr yn 'niweidiol ac yn golled i'r gymuned'

Cherie a Philip Thomas / Pwll nofio Caerfyrddin

Mae defnyddwyr pwll nofio yn Sir Gaerfyrddin wedi dweud bod y penderfyniad i’w gau yn "niweidiol ac yn golled i’r gymuned.”

Bydd pwll nofio Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PDDS), sydd wedi’i leoli ar gampws y brifysgol yng Nghaerfyrddin, yn cau ar 1 Medi.

Dywedodd y brifysgol wrth Newyddion S4C fod “myfyrwyr, staff a defnyddwyr presennol y pwll wedi cael gwybod ei fod yn cau, ac wedi cael cymaint o rybudd ymlaen llaw â phosibl yn dilyn y penderfyniad.”

Ychwanegodd llefarydd ar ran y brifysgol fod y penderfyniad wedi’i wneud “yn dilyn gostyngiad sylweddol yn nifer y defnyddwyr a’r defnydd cyffredinol o’r pwll yn ystod y blynyddoedd diwethaf.”

Dau sydd wedi defnyddio’r pwll yn rheolaidd dros y blynyddoedd diwethaf yw Cherie a Philip Thomas, sydd yn byw ychydig funudau i ffwrdd o’r pwll nofio.

Mae eu plant wedi cael gwersi nofio yn y pwll, ac mae’r ddau yn parhau i ddefnyddio’r pwll yn wythnosol.

'Hanfodol'

Dywedodd Cherie, sydd yn 52 oed, fod derbyn e-bost gan y brifysgol yn cadarnhau bod y pwll yn cau yn “syndod mawr” iddi hi a’i gŵr.

“Ein hymateb, ar ôl dod dros yr anghrediniaeth llwyr a’r sioc oedd, pam?” meddai.

“Mae’r pwll yn hanfodol ar gyfer lles meddyliol yn ogystal â iechyd corfforol. Ond nawr bydd pobl o bob oedran yn methu â defnyddio’r pwll bellach.

“Roeddwn i wedi anafu fy mhen-glin, a’r dewis ges i gan yr ysbyty oedd ffisiotherapi dwys neu lawdriniaeth.

“Doeddwn i prin yn gallu cerdded, ond trwy ddefnyddio’r pwll roeddwn i’n gallu adeiladu cryfder yn ôl, ac roedd gallu defnyddio’r pwll wedi helpu gyda fy iechyd meddwl.”

Adferiad

Ychwanegodd Philip Thomas, oedd yn defnyddio’r pwll er mwyn gwella ar ôl cael llawdriniaeth ar ei wddf, fod nofio wedi bod o gymorth mawr i’w adferiad.

“Roedd nofio wedi helpu fi i reoli’r boen yn fawr,” meddai.

“Ac mae fy ngwddf wedi gwella cymaint dros y flwyddyn diwethaf o ganlyniad i nofio.

“Fy mhryder mwyaf i yw y byddaf yn stopio nofio unwaith y bydd y pwll yn cau, ac y bydd y boen yn dychwelyd. Roedd hi’n annioddefol.”

Image
Pwll nofio Caerfyrddin
Agorodd y pwll yn yr 1970au (Llun: Cherie Thomas)

Ni chafodd unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus ei gynnal ynghylch y penderfyniad i gau’r pwll.

Dywedodd Cherie bod hynny wedi ei adael wedi "ei thwyllo" a bod aelodau wedi cael eu hanwybyddu cyn i benderfyniad gael ei wneud.

Mae’r pwll nofio yn cynnal gwersi nofio i blant ac oedolion, gwersi acwa aerobeg a gweithgareddau eraill.

Un sydd yn mynychu sesiynau acwa aerobeg yw Alison Parsons o Gaerfyrddin.

Mae hi a’i merch yn mynychu sesiynau drwy gyfrwng y Gymraeg bob dydd Llun, ac mae gallu cymdeithasu drwy eu mamiaith yn rheswm mawr dros gymryd rhan.

“Mae’r dosbarthiadau ’di bod yn lyfli ac mae’r lle’n hwylus iawn i gyrraedd a phopeth fel ’na,” meddai wrth Newyddion S4C.

“Mae gwneud aerobeg i gerddoriaeth Gymraeg yn rhywbeth sy’n neis, ac mae ’na grŵp o fenywod sy’n hyfryd.

“Hefyd mae’n gyfle i gael cwrdd â phobl, ac yn gyfle i wneud ymarfer corff mewn awyrgylch saff.”

Image
Mae Alison Parsons, 60 oed yn mynychu'r sesiynau acwa aerobeg bob dydd Llun. Llun: Alison Parsons
Mae Alison Parsons, 60 oed, yn mynychu'r sesiynau acwa aerobeg bob dydd Llun (Llun: Alison Parsons)

Ychwanegodd y byddai cau’r pwll yn golygu colli “adnodd pwysig” i’r gymuned yng Nghaerfyrddin.

“Wel, mae’n siomedig iawn achos mae’n adnodd pwysig i’r gymuned,” meddai.

“Mae’n cael ei ddefnyddio gan y brifysgol, felly mae’n dda i’r myfyrwyr i gyd gael ei ddefnyddio.

“Mae’n siomedig iawn i ni, a dw i ddim yn gwybod a fydd ’na unrhyw un arall yn cynnal y dosbarthiadau hyn, sy’n siom.

“Falle byddwn ni’n defnyddio dosbarthiadau eraill, ond jyst does yna ddim dosbarth arall sy’n debyg lle gallwch chi neud popeth drwy gyfrwng y Gymraeg.”

‘Niweidiol’

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn dweud bod costau hefyd yn ffactor wrth benderfynu cau’r pwll.

“Mae’r costau sy’n gysylltiedig â chynnal a gweithredu’r pwll, gan gynnwys costau ynni cynyddol a gofynion cynnal a chadw parhaus, wedi parhau i gynyddu. 

"O ganlyniad, nid yw’n ariannol hyfyw mwyach i gynnal y cyfleuster yn yr amgylchedd presennol, lle mae pwysau cynyddol ar adnoddau’r brifysgol,” meddai’r sefydliad.

Mae’r pwll nofio yn rhan o ganolfan chwaraeon ehangach, ac ni fydd cyfleusterau eraill yn cau.

Y gost i ddefnyddio’r pwll a’r cyfleusterau eraill i aelod o’r cyhoedd yw £25 y mis, gyda chost o £20 i bobl dros 60 oed.

Dywedodd Cherie Thomas y byddai’n hapus i dalu mwy pe bai’n golygu bod modd cadw’r pwll ar agor.

“Wrth gwrs byddwn i’n barod i dalu mwy, byddwn i hyd yn oed yn gwirfoddoli i redeg y pwll a sicrhau bod pawb yn gallu ei ddefnyddio," meddai.

“Mae fy stori i yn un o nifer ac fe fyddai colli’r pwll yn niweidiol i lawer.

“Mae’n gymuned o aelodau o bob oedran a gallu, ac mae sawl un yn dod nid yn unig ar gyfer y buddion iechyd, ond ar gyfer yr ochr gymdeithasu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.