Nofio gwyllt: Galw ar Dŵr Cymru i wneud mwy i reoli peryglon cronfeydd dŵr
Mae dyn ifanc sy’n byw yng Nghaerdydd yn galw ar Dŵr Cymru i wneud mwy i ddiogelu pobl sy’n cymryd rhan mewn nofio gwyllt.
Mae Eben Myrddin Muse wedi bod yn protestio yn erbyn y ffordd mae Dŵr Cymru yn rheoli ei gronfeydd dŵr, gan ddadlau nad yw ei fesurau diogelwch presennol yn ddigon i sicrhau bod y cyhoedd yn ddiogel.
“Maen nhw yn rhoi arwyddion ar ochr y dŵr, i rybuddio pobl i beidio â nofio, ac wedyn yn golchi eu dwylo o’r holl beth.
“Dydi hi ddim yn bolisi sydd yn edrych allan am iechyd y cyhoedd ond polisi sydd yn trio lleihau'r risg ar gyfer cwmni preifat. Mae’n eu hesgeuluso nhw o’u cyfrifoldeb nhw i’r cyhoedd,” meddai Eben.
Mae nofio gwyllt yn cyfeirio at nofio mewn cyrff o ddŵr naturiol megis llynnoedd, afonydd a chronfeydd dŵr.
Nid yw Dŵr Cymru yn caniatáu i bobl nofio yn ei gronfeydd dŵr a’i lynnoedd heb ganiatâd.
Mae’r cwmni’n tynnu sylw at y peryglon cudd mewn cronfeydd dŵr, gan gynnwys peiriannau a all fod o dan y dŵr, cerrynt cryf, dŵr dwfn a’r perygl o brofi sioc dŵr oer.
Ond yn ôl Eben, sy’n gweithio i dîm mynediad a chadwraeth Cyngor Mynydda Prydain, mae angen symud at fodel sy’n rheoli'r risgiau sy’n bodoli, yn hytrach na gwahardd pobl yn llwyr.
“Mae 'na beryglon wrth wneud llawer o weithgareddau awyr agored, yn cynnwys mynydda, ond dydan ni ddim yn gwahardd pobl rhag mynd i gerdded. Yn hytrach rydyn ni yn gweithio i reoli’r peryglon.
“Dydyn ni ddim ishe tanseilio'r peryglon sydd i’w gael o fynd i nofio heb ganiatâd, ond rydw i’n credu fod cyfrifoldeb gan Dŵr Cymru i drio lleihau'r risgiau yma.
“Does dim gwybodaeth ar yr arwyddion mae Dŵr Cymru wedi eu gosod o amgylch am beth yw’r peryglon sy’n bodoli. Dim byd i addysgu'r cyhoedd, heb law gorchymyn i beidio.
“Dydy pobl ddim yn gwrando ar yr arwyddion hyn, ac yn dal i fynd i nofio. O wybod bod pobl yn mynd i nofio, yr unig beth saff, a chyfrifol iddyn nhw wneud yw darparu mwy o fesurau diogelwch.”
Marwolaethau
Mae sawl achos wedi bod eleni o bobl yn colli eu bywydau wrth nofio heb ganiatâd mewn llynnoedd a chronfeydd dŵr ar draws Cymru.
Ar gyfartaledd, mae 29 o bobl yn marw mewn amgylchiadau sy’n ymwneud â dŵr yng Nghymru bob blwyddyn, gyda 49% o’r achosion hynny’n digwydd mewn dyfroedd mewndirol.
Mae ystadegau hefyd yn dangos bod nifer y bobl sy’n boddi bob blwyddyn yng Nghymru yn cynyddu.
“Mae Dŵr Cymru yn aml yn defnyddio achos trasig o farwolaeth person fel enghraifft a rhybudd yn erbyn mynd i mewn i ddyfroedd, ond mewn gwirionedd mae’r achosion yma yn digwydd o dan y system bresennol, sy’n dangos nad ydyn nhw yn gweithio.”
Mae Eben wedi bod yn rhan o ddwy brotest yn erbyn Dŵr Cymru, gan alw ar y cwmni i reoli risgiau’n well er mwyn galluogi gwell mynediad at gronfeydd dŵr a llynnoedd Cymru.
Mae Eben yn gobeithio y bydd mesurau diogelwch gwell yn arwain at fynediad gwell a chynnydd yn nifer y dyfroedd sy’n saff i nofio ynddynt ar draws Cymru.
“Mae 'na grwpiau wedi eu sefydlu o amgylch Cymru sydd yn ymgyrchu ar gyfer statws ymdrochi i lynnoedd a chronfeydd ar draws Cymru, fel bod hawl i nofio mewn lle saff ble mae’r risgiau yn cael eu rheoli, a hefyd sicrhau iechyd bywyd natur yn y dyfroedd yma.”
Mae Eben wedi edrych ar enghreifftiau yn yr Alban, lle mae gan y cyhoedd hawl i nofio mewn cronfeydd dŵr. Mae’n cwestiynu pam na all Dŵr Cymru ddilyn yr un model.
“Yn yr Alban mae hawl i nofio yn rhan fwyaf o’u dyfroedd naturiol. Mae Scottish Water wedi buddsoddi mewn strategaethau i gadw pobl yn saff, yn cynnwys cynllun i ddysgu plant sut i nofio.”
“Maen nhw yn dangos bod ffordd arall i warchod pobl rhag y peryglon, sydd yn galluogi iddyn nhw fwynhau natur mewn ffordd saff.”
Ymateb
Mewn ymateb dwedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru nad "mater o osgoi cyfrifoldeb" yw atal pobl rhag nofio mewn rhai cronfeydd a llynnoedd.
“Mae’n ymwneud ag atal pobl rhag rhoi eu hunain, eu ffrindiau a’u teuluoedd, a’r rhai a allai geisio eu hachub, mewn perygl.
“Rydym yn cydnabod poblogrwydd cynyddol nofio mewn dŵr agored a’r manteision y gall eu cynnig pan gaiff ei reoli’n briodol.
“Dyna pam rydym yn darparu cyfleoedd awdurdodedig i nofio ac ymdrochi mewn dŵr agored mewn safleoedd sydd wedi’u dynodi ar gyfer ymwelwyr, gan gynnwys Lisvane a Llanisien, Llandegfedd, Llys y Fran a Llyn Brenig."
Ychwanegodd: “Mewn cronfeydd dŵr eraill, ni ellir dileu’r peryglon na’u gwneud yn ddiogel ar gyfer nofio heb oruchwyliaeth.
“Rydym yn defnyddio arwyddion, patrolau, ymgyrchoedd diogelwch cyhoeddus a briffiau i gydweithwyr i rybuddio pobl am y peryglon hyn, ac rydym yn dwysáu ein gweithgareddau yn ystod tywydd cynhesach a chyfnodau gwyliau pan fo’r risg o bobl yn mynd i’r dŵr yn uwch.
“Ein safbwynt o hyd yw bod nofio mewn cronfeydd dŵr heb awdurdodiad yn hynod beryglus ac na ddylid ei wneud.”
