Tân ar fynydd yn ne Cymru wedi'i ailgynnau'n 'fwriadol'

Glynrhedynog

Mae tân ar fynydd yn ne Cymru wedi'i ailgynnau'n "fwriadol,” meddai’r gwasanaeth tân.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ddydd Llun fod tân wedi’i gynnau’n fwriadol ar Fynydd Llanwynno yn Rhondda Cynon Taf.

Mae hyn lai nag wythnos ar ôl i’r gwasanaeth adrodd bod tanau eraill wedi'u cynnau'n fwriadol ar y mynydd.

Mae criwiau yn bresennol ar y safle ar hyn o bryd.

Wythnos diwethaf, cafodd hofrennydd ei ddefnyddio i gynorthwyo ymdrechion i ddiffodd y tân, gyda 20 o griwiau tân hefyd yn y lleoliad.

Wedi sawl diwrnod o losgi, fe wnaeth y gwasanaeth ddatgan ddydd Gwener bod diffoddwyr wedi cael eu sefyll i lawr wedi i'r tân ddod dan reolaeth.

Wrth ymateb i'r datblygiad diweddaraf, mae'r gwasanaeth yn galw ar drigolion i fod yn wyliadwrus ac i adrodd am unrhyw ymddygiad amheus mewn cysylltiad â chynnau tanau i Heddlu De Cymru.

Mae swyddogion yr heddlu yn bresennol yn yr ardal er mwyn ceisio atal unrhyw un rhag gynnau rhagor o danau.

Diolchodd y gwasanaeth tân i aelodau'r gymuned leol am eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.