'Tactegau peryglus': 230 o fudwyr wedi croesi'r Sianel mewn un cwch

Dinghy yn Dover (PA)

Mae Llywodraeth y DU wedi condemnio gangiau troseddol sy’n gyfrifol am gludo mudwyr i Brydain wedi i 230 o bobl groesi’r Sianel mewn un cwch fore dydd Llun.

Dyma’r nifer fwyaf o bobl i wneud y croesiad o Ffrainc i Dover, de Lloegr, mewn un cwch, wedi i 165 o bobl wneud y croesiad mewn un cwch yng Ngorffennaf 2025.

Cafodd cwch 'dinghy' mawr, oedd bellach heb aer, ei weld ar ymyl cei Canolfan Reoli Diogelwch fore Llun.

Mae pryderon ynglŷn â’r cynnydd yn y nifer o bobl sydd yn ceisio gwneud y croesiad mewn cychod bach.

Fis diwethaf, fe wnaeth cwch oedd yn cludo 173 o bobl droi drosodd yn y Sianel wedi i dân ddechrau yn yr injan.

Wrth ymateb i'r croesiad diweddaraf, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: “Mae’r digwyddiad diweddaraf yn enghraifft o dactegau peryglus a byrbwyll y gangiau troseddol sydd yn trefnu’r croesiadau, sydd yn parhau i beryglu bywydau pobl drwy wasgu rhagor o bobl ar gychod sydd ddim yn addas i fod ar y môr.

“Rydym yn gwneud cynnydd, gyda’r nifer o groesiadau gan gychod bach i lawr eleni, a’r nifer isaf ar gofnod ym mis Gorffennaf ers 2020.

“Ond mae’n rhaid i ni fynd ymhellach, a dyna pam rydym wedi arwyddo cytundeb talu-fesul-canlyniad gyda Ffrainc er mwyn rhoi 40% yn rhagor o staff ar draethau Ffrengig.”

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd arweinydd Reform UK, Nigel Farage, er bod y niferoedd o gychod sy’n croesi wedi gostwng, mae’r niferoedd yn parhau’n “ofnadwy”.

“Ydyn, rydym wedi llwyddo i atal rhai o’r cychod dinghy ond dyw e ddim yn stopio’r broblem - dyw e ddim yn mynd i ffwrdd.

“Mae dal yn rhywbeth sydd yn gwbl allan o reolaeth.”

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.