Carcharu dyn am ymosodiad rhyw ger Canolfan Ddinesig Abertawe

Wales Online 16/09/2021
Turkey Al Turkey

Mae Llys y Goron Abertawe wedi clywed fod dyn wedi gwthio alcohol ar fenyw cyn ei threisio mewn man cyhoeddus ger promenâd y ddinas. 

Credai’r heddlu y gallai Turkey Al-Turkey, 26 oed, fod wedi rhoi cyffuriau i’r fenyw hefyd, gyda’r bwriad o’i threisio.

Cafodd Al-Turkey, sy’n geisiwr lloches o Irac, ddedfryd o wyth mlynedd ac wyth mis yn y carchar.

Dywedodd Carina Hughes ar ran yr erlyniad fod yr ymosodiad wedi digwydd ar noson 17 Gorffennaf ac yna wedi parhau yn ystod oriau man y bore.

Cafodd Al-Turkey ei weld yn eistedd ar fainc gyda’r fenyw gan gamerâu cylch cyfyng y Ganolfan Ddinesig, oedd yn cael eu monitro gan weithwyr y ganolfan.

Clywodd y llys dystiolaeth gan un o’r gweithwyr, a ddywedodd ei bod hi’n amlwg fod y fenyw wedi meddwi.

Gwelwyd y diffynnydd yna’n cario’r fenyw o’r fainc, cyn ei rhoi ar y gwair a’i threisio, meddai Hughes.

Cafodd yr heddlu eu hysbysu o’r digwyddiad gan weithwyr y Ganolfan Ddinesig, ac fe gafwyd hyd i'r diffynnydd yn eistedd mewn man gyfagos.

Clywodd y llys nad oedd syniad gan y dioddefwr ei bod wedi ei cham-drin yn rhywiol, tan i’r heddlu roi gwybod iddi.

Wrth gyhoeddi'r ddedfryd, dywedodd y Barnwr Paul Thomas QC ei bod hi’n debygol y caiff Al-Turkey ei alltudio o’r Deyrnas Unedig yn dilyn ei gyfnod yn y carchar.

Darllenwch yr adroddiad yn llawn ar wefan WalesOnline yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.