Gorllewin Sir Benfro ymysg y llefydd gorau yn y DU i weld diffyg ar yr haul

solar eclipse.jpg

Mae gorllewin Sir Benfro ymysg y llefydd gorau yn y DU i weld diffyg ar yr haul (solar eclipse) ddydd Mercher. 

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, dyma fydd y diffyg ar yr haul mwyaf llawn am y 54 mlynedd nesaf. 

Fe fydd mwy na 90% o'r haul yn cael ei guddio gan y lleuad rhwng 18:17 a 20:06 ddydd Mercher, sef y mwyaf y mae o wedi cael ei guddio ers y diffyg llawn yn 1999.

Mae disgwyl i rannau mwyaf gorllewinol Sir Benfro, Dyfnaint a Chernyw weld y diffyg ar ei fwyaf, gydag amrediad o 94% i 96% o'r haul wedi'i guddio gan y lleuad.

Fe fydd gweddill Cymru, Gogledd Iwerddon a rhannau o Orllewin Canolbarth Lloegr a de orllewin Lloegr yn gallu gweld rhwng 92% a 94% o'r diffyg ar yr haul. 

Yng Nghaerdydd, mae disgwyl i'r lleuad guddio tua 93.24% o'r haul am 19:13.

Dywedodd Imo Bell o Arsyllfa Frenhinol Greenwich: "Nid yw'n ddiffyg ar yr haul llawn, ond mae dros 90% yn hynod o gyffrous. Dydyn ni ddim am gael un mor dda am amser hir iawn.

"Felly mae’n bwysig peidio â’i golli, a bod yn barod. Ni allwch fynd allan a disgwyl cael golwg oherwydd gall fod yn hynod o beryglus i’ch llygaid.

"Mae modd defnyddio sbectol arbennig, sy'n wahanol iawn i sbectol haul - maen nhw'n rhwystro cymaint o olau fel na fedrwch chi weld unrhywbeth drwyddyn nhw heblaw am yr haul, oherwydd dyna faint o olau sydd angen iddyn nhw ei rwystro er mwyn i olau niweidiol yr haul fod yn ddiogel i'w weld."

Y tro nesaf y bydd y lleuad yn cuddio cymaint o'r haul fydd yn 2081 a'r diffyg ar yr haul cyflawn nesaf yn y DU fydd yn 2090.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.