Cyngor yn bygwth camau cyfreithiol ar rai sy’n gadael biniau ar y stryd
Mae un o gynghorau sir y gogledd wedi cael eu cyhuddo o ddefnyddio dulliau “llawdrwm” ar ôl rhybuddio trigolion y gallan nhw wynebu camau cyfreithiol am adael eu biniau ar y stryd ar ôl iddyn nhw gael eu gwagio.
Mae rhai trigolion yn Sir Ddinbych wedi derbyn hysbysiadau wedi’u dosbarthu â llaw yn eu rhybuddio y gallai methu â dychwelyd biniau i’w heiddo arwain at erlyniad neu hysbysiad cosb benodedig.
Mae’r hysbysiadau, sy’n cyfeirio at Adran 46 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, yn dweud bod biniau wedi cael eu gadael dro ar ôl tro ar balmentydd neu briffyrdd.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dweud bod rhaid i finiau neu focsys ailgylchu gael eu dychwelyd o fewn ffin yr eiddo, neu i fan storio arall sydd wedi’i gymeradwyo, cyn gynted â sy’n "rhesymol bosib" ar ôl casgliad.
Mae’r hysbysiad yn rhoi saith diwrnod i drigolion gydymffurfio, gan rybuddio y gallai methu â gwneud hynny arwain at erlyniad neu ddirwy.
Dywedodd arweinydd gwrthblaid y cyngor, y Cynghorydd Annibynnol Huw Hilditch-Roberts, fod y dull yn “ddryslyd” ac yn “llawdrwm”.
Dywedodd fod nifer o drigolion Rhuthun yn arfer gosod eu biniau ar y palmant ar gyfer eu casglu, ac nad oedd yn glir ble’n union roedd y cyngor yn “tynnu’r llinell”.
Cyfeiriodd hefyd at y problemau sydd wedi wynebu’r gwasanaeth casglu gwastraff a’r system ailgylchu newydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Mae hyn yn ychwanegu at y dryswch i drigolion Sir Ddinbych,” meddai, gan ychwanegu y dylai’r cyngor fod yn cynnal “sgwrs agored” gyda deiliaid tai er mwyn dod o hyd i atebion.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych fod gan bob awdurdod lleol yn y DU bwerau o dan y Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd i osod gofynion ynghylch sut mae gwastraff ac ailgylchu yn cael eu cyflwyno i’w casglu.
Ychwanegodd y cyngor y gall biniau sy’n cael eu gadael allan rwystro palmentydd, achosi problemau i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a phramiau, denu plâu, a chael eu chwythu i’r ffordd.
“Mae dod â biniau i mewn yn brydlon ar ôl eu casglu yn gam syml sy’n helpu i gadw palmentydd yn glir ac yn cyfrannu at gymunedau mwy diogel, glanach a hygyrch,” meddai’r cyngor.